top of page

Wanda Zyborska

Mae Zyborska yn un o'r prif artistiaid yng ngogledd Cymru ac mae wedi gweithio'n helaeth ar brojectau rhyngwladol ac arddangosfeydd cenedlaethol. Mae gan Zyborska agwedd gysyniadol at wneud celf ond mae’n parhau i ymddiddori yn y broses. Mae ei cherfluniau nodweddiadol wedi'u gwneud o rwber ac er ei bod yn gweithio'n bennaf mewn 3D, mae Zyborska yn feistr ar gydweithio ac ennyn diddordeb mewn cynulleidfaoedd ar draws sbectrwm eang o brosesau.

 

 

Wanda Zyborska gwaith efo

Henry Fuseli.

Teiresias Foretells the Future to Odysseus

c.1800.

Y paentiad mwyaf diddorol yn fy marn i yw'r un gan Fuseli, wedi ei ysbrydoli gan fytholeg Groeg; Mae Teiresias yn rhagweld dyfodol Odysseus, 1780-85. Mae menyw lwyd, fel drychiolaeth, yn gwywo rhwng dau ddyn. Mae'n rhy annelwig i fod ag unrhyw nodweddion arbennig, nid yw'n bosib dweud ei hoed ond mae'r label yn dweud mai mam Odysseus yw hi. Er ei fod yntau hefyd wedi marw, portreadir Tiresias mewn ffordd yr un mor gorfforol ag Odysseus, ond mae ei fam bron iawn yn anweledig, mewn monocrom, ei breichiau wedi eu croesi ar ei bron, fel pe bai'n dal yn ei harch, heb egni i symud hyd yn oed.

Yn y lle cyntaf rydw i'n gweithio'n eithaf agos o'r gwreiddiol. Hynny yw, byddaf yn edrych arno wrth luniadu. Fyddaf i ddim yn edrych ar yr hyn rydw i'n ei luniadu, ac eithrio ambell dro pan fyddaf yn gosod pethau yn y eu lle ac yn dod o hyd i fan cychwyn, a hefyd o ran golchion a thonau. Rydw i'n defnyddio system luniadu yr ydw i'n ei galw'n 'lled-awtomataidd'. Mae'n deillio o luniadu awtomataidd y Swrealwyr, ond gall gynnwys gwrthrych byw a gellir ystyried y gwaith cyfansoddi. Mae'r gyfres Anticleia hon yn golygu mynd mor bell ag y gallaf o'r syniad o luniadu awtomataidd, yr unig beth sydd ar ôl yw peidio ag edrych ar y dudalen.

Euthum i Amgueddfa Caerdydd i edrych ar enghreifftiau o'r ffordd mae merched hÅ·n yn cael eu cynrychioli yn ein hamgueddfeydd.   Fel roeddwn yn disgwyl, doedd yna fawr o ddewis; roedd y rhan fwyaf o'r merched ar y waliau yn ifanc ac yn aml yn noeth.  Yn y diwedd dewisais y darlun Tiresias Foretells the Future to Odysseus (1800) gan Henry Fuseli, oherwydd ei fod yn cynnwys Anticleia, mam Odysseus.   Ar wefan yr Amgueddfa fe'i disgrifir hi fel 'y cysgod o fam Odysseus', y ceir hyd iddi'n annisgwyl yn Hades pan aeth Odysseus yno i chwilio am Tiresias a gofyn iddo ddatgelu'r dyfodol iddo.

 

Caiff Anticleia ei phortreadu fel drychiolaeth o ddynes lwyd yn gwywo rhwng dau ddyn grymus, sef ei mab Odysseus a'r proffwyd dall Tiresias.    Ysbryd yw Tiresias hefyd, ond nid yw ef wedi ei baentio fel y ddynes. Mae'n sefyll allan mewn silwét, mae'n amlwg a phwysig, ac mae'n cael ei grybwyll yn y teitl.   Roedd Anticleia yn gynrychiolydd perffaith o'r ddynes hÅ·n a oedd yn cael ei hanwybyddu ac yn anweledig, ysbryd gwantan y mae ei henw'n golygu 'heb unrhyw fri'.  Nid yw'n unigolyn ar wahân fel y ddau ddyn; yn hytrach, mae'n rhan o'r nifer o ysbrydion gwelw yng nghefndir y darlun, yn fwy o ran o'r dirwedd na ffigwr ar wahân.  Mae'r naratif yn digwydd rhwng y ddau ddyn sy'n edrych ar ei gilydd, nid arni hi;  mae Anticleia'n rhan o'r cefndir yn y stori ac yn y darlun. 

 

Mae darlun Fuseli'n adlewyrchu ei diffyg pwysigrwydd yng ngherdd epig Homer. Dyfais farddonol ydyw, a ddygir i mewn i symud y plot yn ei flaen a rhoi gwybod i Odysseus beth sy'n digwydd gartref.   Er mwyn medru ei rhoi yn Hades, mae Homer yn ei disgrifio'n marw o dorcalon oherwydd ei bod yn colli ei mab gymaint (sy'n annhebygol yn fy marn i).  Nid yw Odysseus yn rhoi unrhyw sylw iddi heblaw'r hyn sydd raid mewn gwirionedd, ac mae'n amlwg fod ganddo fwy o ddiddordeb yn ei ddyfodol epigol ei hun.

Roeddwn wedi cael hyd i wrthrych perffaith i ddangos sut y gall merched hÅ·n gael eu portreadu ac/neu eu hanwybyddu.   Ar hyn o bryd rwy'n gwneud ymchwil ar y ffordd y portreadir merched hÅ·n.   Mae'n PhD wedi'i seilio ar ymarfer, sy'n golygu mai'r gwaith celf rwyf yn ei wneud yw prif ran yr ymchwil a'r meddwl gweledol, gyda phapur ategol sy'n nodi'r hyn rwyf wedi'i ddarllen ac egluro fy nadl a phroses weithredu.  Mae Anticleia wedi dod yn fasgot neu symbol i mi, ac mae'r rhan fwyaf o'r gwaith rwyf wedi'i wneud yn y flwyddyn ddiwethaf wedi bod amdani hi.

 

Dechreuais gyda lluniadau o'r darlun, gan mwyaf heb edrych ar y papur roeddwn yn arlunio arno, ond gan barhau i edrych yn ofalus ar ffotograffau o'r gwreiddiol i weld sut roedd Fuseli wedi llunio a chyfansoddi ei ddelwedd.   Rwyf hefyd yn darlunio gweithiau eraill, mwy dychmygol, gan feddwl amdani hi ond heb edrych ar unrhyw beth yn neilltuol.   Mae'r broses hon yn bur debyg i ddarlunio awtomatig y Swrealwyr, ond rydw i'n meddwl amdani fel proses led-awtomatig, gan nad wyf yn ceisio dilyn eu holl reolau.   Un o fy amcanion yw datgelu meddyliau fy isymwybod, fel y ceisiodd y Swrealwyr ei wneud, ac weithiau rwyf yn gweithio bron mewn math o berlewyg, fel fy mod yn cael syndod bob amser pan fyddaf yn edrych yn y diwedd ar y papur i weld beth rwyf wedi'i wneud.   Roedd yr ysgol gelf yr euthum iddi yn Awstralia yn darparu modelau byw bob dydd yn y stiwdio, ac roeddwn yn arfer bod yn hoff iawn o fywluniadu. Gall ddod yn ôl i mi bron yn awtomatig, er fy mod wedi mynd braidd yn rhydlyd yn y grefft.   Rwy'n mwynhau'r rhyddid a'r aflunio sy'n dod o beidio ag edrych a gadael i fy meddyliau grwydro.   Rwy'n ceisio gweithio drwy fy nghorff, a gadael i fy llaw feddwl yn fy lle - meddwl drwy fy nghroen.

 

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn gerfluniol, yn fwy ffurfiol ac yn fwy haniaethol na'r rhan fwyaf o fy narluniau.  Roeddwn yn meddwl llawer iawn am y cyfansoddiad a'r siapiau yn y darlun, a sut i'w trosglwyddo i 3D.  Rwyf wedi defnyddio deunyddiau y cefais hyd iddynt sy'n dod â'u hystyron eu hunain.  Yn achos Anticleia, rwy'n meddwl am ffurf sbiral yr ysbrydion anhysbys sy'n troelli o'i hamgylch a'i chaethiwo.   Y sbiral hwn sy'n rhoi'r rhan fwyaf o'i egni i ddarlun Fuseli, er bod siapiau pendant a dramatig y ddau brif gymeriad gwrywaidd yn hoelio ein sylw.   Rwyf wedi gwneud grŵp pren o'r ddau ddyn, gydag onglau geometrig main, ac mae Anticleia'n cael ei chyflwyno fel cromliniau a phlygiadau caligraffig grymus, i gynrychioli ei thrawsnewid yn ynni pur, wrth iddi fynd y tu hwnt i'w chyfyngiadau a thorri drwyddynt.

 

Mae fy nghydweithio dychmygol gyda Fuseli yn ymwneud yn bennaf â cheisio ymateb i'w waith celf, ond erbyn hyn ef yn awr yw fy ymwybyddiaeth, fel cyfaill dychmygol.  Rwy'n gweithio yn erbyn yr hyn mae'r darlun yn ei bortreadu, mewn protest yn erbyn yr hyn rwy'n ei weld fel agweddau negyddol a nawddoglyd tuag at ferched hÅ·n.   Fodd bynnag, yn aml rwy'n gweld amwysedd yn y gwaith, ac mae'n anodd penderfynu o ble mae'r rhain wedi dod: o'r darlun neu ohona i.   Nid wyf eisiau datrys yr amwysedd hwn, ond yn hytrach ei gadw, oherwydd mae egni ystyr a ffurf rhwng fy ngwaith i a'r darlun yn teimlo'n ddeinamig ac yn fy ysgogi i barhau.

bottom of page