top of page

Noelle Griffiths

Mae Griffiths yn fyd-enwog am wneud llyfrau artistiaid o'i stiwdio ym Maentwrog. Astudiodd Griffiths yn St Martin's School of Art  ac mae'n baentiwr o fri yn gweithio gydag olew a phaent sylfaen ddŵr. Ar gyfer y project hwn mae Griffiths wedi defnyddio un o'r paentwyr haniaethol mwyaf dylanwadol a gynrychiolir yn y casgliad cenedlaethol a oedd hefyd yn arholwr allanol i'w gradd. 

 

 

Noelle Griffiths gwaith efo

John Hoyland

‘Ligeia’

1978 

Wrth ymateb i baentiad John Hoyland, ‘Ligeia’ yr hyn sydd o ddiddordeb i mi yw ymchwilio i'r broses greadigol. Sut rydym yn gwneud paentiadau a pham? Yr ansicrwydd a'r cwestiynau a ofynnwn. P’un sydd bwysicaf – y broses neu'r canlyniad ar y diwedd?

Byddaf yn ysgrifennu'n rheolaidd am waith sydd ar y gweill, gan wneud sgetshis bychan yn fy llyfr nodiadau a chan ddadansoddi'r dewisiadau a'r newid cyfeiriad wrth i mi baentio. Ar gyfer Ailwneud, Ailddyfeisio, rydw i'n llunio cyfres o baentiadau, gan gofnodi'r broses a hefyd yn gwneud llyfr arlunydd ar gyfer pob paentiad. Bob dydd byddaf yn cofnodi pob un o'r lliwiau a ddefnyddiaf, ac ar ddiwedd y project byddaf yn gwneud cyfres o lyfrau arlunydd unigryw fydd yn cyfuno'r tudalennau lliw yn y llyfr gyda thestun.

 

Fe wnaeth John Hoyland baentio Ligeia yn 1978 fel rhan o gyfres lle defnyddiodd gyfansoddiad diagonal.  Yn 1979 fe wnaeth rhaglen Arena y BBC ffilmio Hoyland yn ei stiwdio yn dechrau a chwblhau darlun newydd yn y gyfres hon.  

 

Rwyf wedi dewis gweithio gyda'r darlun Ligeia a'r ffilm Six Days in September ar gyfer y Project ReTake/ReInvent.  

 

Mae'r ffilm Arena'n archwilio proses greadigol gwneud darlun.   Mae John Hoyland yn siarad mewn ffordd uniongyrchol a gonest, gan wneud sylwadau sy'n taro deuddeg gydag arlunwyr sy'n gweithio yn unigedd eu stiwdio.  

 

“...it’s so fragile an activity making a painting, trying to bring a painting into the world....”  Day One.

 

“...just  making a painting seems like such a ridiculous activity....nobody wants it particularly and you don’t know if you can do it, you don’t know if you are strong enough....”  Day Two.

 

“...I’m trying to coax the painting along but I’m not trying to impose on it.  I’m not trying to force a rigid idea on it....I’m trying to let the paint work for me, do things for me....”  Day Five. 

 

Dyfyniadau wedi'u trawsgrifio o'r ffilm Six Days in September © John Hoyland Estate 

bottom of page