top of page

Gweithdai gan Rebecca Hardy Griffith

Ysgol Y Graig, Llangefni

Artist a ddewiswyd: Iwan Lewis

Disgyblion: Cyfnod allweddol 2/Blwyddyn 5

Nifer: 30

Gyda chefnogaeth: Athro/athrawes dosbarth

 

Dewisais yr artist Iwan Lewis gan ei fod wedi'i leoli gerllaw yng Nghaergybi ar Ynys Môn. Rwyf yn gyfarwydd â'i waith celf, byddai ei ddefnydd o liw a chyfansoddiad yn fy marn i yn creu gweithdy diddorol ac a fyddai'n ennyn diddordeb ac ymateb y disgyblion. Byddai ei broses o ddefnyddio deunyddiau yn ogystal â phwnc ei waith yn gwneud testun agored gwych i'r disgyblion ei drafod. Felly roedd y gweithdai yn ymarfer gweithredol a llafar fel bod y disgyblion yn gallu ymestyn eu meddyliau creadigol yn ffisegol ac yn feddyliol.

 

TRoedd y gweithdy dau ddiwrnod wedi'i rannu'n ddwy ran, gyda'r diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar yr artist a ddewiswyd o'r project, a'r ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar y project a'r gwaith celf a ddewiswyd gan yr artist.

 

DIWRNOD CYNTAF:

 

Strwythur y sesiynau ar y diwrnod cyntaf oedd cyflwyno'r project, yr artist a dull yr artist gan ddefnyddio gemau tynnu llun, taflenni, trafodaeth dosbarth cyfan, gweithgaredd grŵp, gwaith annibynnol a gwerthuso. Ar ôl cyflwyno'r project i'r disgyblion a chyhoeddi enw'r artist, penderfynais gyflwyno'r sesiwn yn raddol i'r disgyblion gyda gemau tynnu llun sydyn a llawn hwyl i'w hatgoffa o'r pleser o fynegiant rhydd ac i beidio â chymryd gormod o ofal gyda'r llun gorffenedig. Mae’n ffordd dda hefyd o ymarfer eu cydsymudiad llaw/llygad a'u cael i feddwl yn sydyn. Ar ôl cyffro a chynnwrf y gêm gyntaf, cyflwynais weithgaredd arall iddynt sef gwneud marciau, gweithgaredd lle mae gair a gweithred wedi'u symleiddio. Trafodwyd gwneud marciau a sut y gellir eu defnyddio yn eu gwaith celf. Roedd yn wych gweld pa mor gyflym yr oedd y disgyblion yn amsugno'r wybodaeth a gyda chymorth yr athro dangoswyd hunanbortread wedi'i ysgythru gan Rembrandt ar y bwrdd gwyn ac arweiniodd hynny at drafodaeth agored am yr amrywiaeth o farciau a ddefnyddiwyd gan Rembrandt.

 

Yn nesaf, rhoddwyd taflenni mawr o bapur A2 ar y tablau, gyda'r disgyblion yn gweithio mewn parau i rannu'r gofod ar y papur gan fod yn ystyriol ac ymwybodol o ddarluniau ei gilydd. Y gweithgareddau y gofynnwyd i'r disgyblion eu gwneud oedd tynnu llun rhywbeth o'r gêm gyntaf (gweithred cofio), a'i dynnu eto gan ddefnyddio'r llaw arall (her), ei dynnu eto gyda'u llygaid ynghau (her ychwanegol) ac yn olaf rhoddwyd y disgyblion mewn parau. Roedd un disgybl yn dal y pensil a'r llall yn symud llaw ei bartner o gwmpas y papur i dynnu llun ac yna roeddent yn newid drosodd. I orffen y gemau tynnu llun, gofynnais gwestiynau caeedig ac agored i'r disgyblion ynglŷn â'r gweithgareddau, pa gêm wnaethon nhw ei mwynhau? A pha weithgaredd oedd yn anodd? I ddechrau, roedd rhaid annog y dosbarth i rannu eu barn, y dewis poblogaidd oedd defnyddio'r llaw arall neu gyda'u llygaid ynghau a'r her anoddaf oedd gweithio mewn parau, sef hollol i'r gwrthwyneb i Ysgol Pen y Bryn.

 

Ar ôl i'r disgyblion ddychwelyd o'u hegwyl, dechreuais y drafodaeth gyda chwestiwn galw gwybodaeth i gof am y project. Gofynnais iddynt i ble y teithiodd yr artist o ogledd Cymru a pha oriel aethant i'w gweld? Beth oedd enw'r artist yr oeddent yn mynd i'w astudio? Ar ôl cael yr ateb cywir, rhoddwyd gwahanol luniau o waith celf Iwan i'r disgyblion o'i arddangosfa ddiweddaraf yn Ucheldre y flwyddyn flaenorol a gofynnwyd iddynt edrych ar y gwaith celf ar y taflenni am ychydig o funudau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedyn cafwyd trafodaeth fel dosbarth am y deunyddiau a defnyddiwyd gan Iwan i greu ei waith celf a beth, yn eu barn nhw, oedd y neges yng ngwaith celf Iwan. Tynnais sylw at yr hyn a ddywedwyd gan James Harper mewn adolygiad yn y cylchgrawn CCQ am arddangosfa Iwan yn Ucheldre ynglÅ·n â chyfeiriadau Iwan at Henri Rousseau. Ar ôl ystyried, cafwyd atebion cymysg i'r cwestiynau agored a chaeedig, roedd rhaid annog rhai o’r myfyrwyr i ymateb tra bod rhai eraill yn fwy parod. Er efallai ei bod hi'n anodd i'r disgyblion ddeall pwnc Iwan, roeddent yn gallu cyfleu ei liwiau a'r thema drofannol yn ei arddangosfa Haf Bach Mihangel yn y lluniau a grëwyd ganddynt. Gan ddefnyddio'r taflenni fel ffordd i'w hysbrydoli, crëwyd brasluniau ganddynt gan ddefnyddio pensiliau, pensiliau dyfrlliw a phasteli olew. Gwnaed union gopi gan rai o'r disgyblion gyda rhai eraill yn defnyddio eu dychymyg. Yn ystod y gweithgaredd, eglurais y prosesau artistig a bod brasluniau yn ddefnyddiol iawn er mwyn i'r artist gael syniadau, patrymau a siapiau.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

AftAr ôl iddynt orffen eu brasluniau unigol, cyflwynais y gweithgaredd grŵp, gyda phob bwrdd yn cydweithio i greu darlun mawr wedi ei ysbrydoli gan waith celf Iwan. Roedd rhaid i'r tri grŵp benderfynu gyda'i gilydd pa lun roeddent eisiau ei dynnu, pa aelod o'r grŵp oedd yn tynnu llun o beth a lle, a'u bod yn werthfawrogol o waith ei gilydd. Roedd yn wych eu gwylio yn cydweithio a gweld y cymeriadau yn ffurfio'n naturiol, felly ar ôl eu harsylwi am 5 munud camais i mewn a phenodi rheolwr project i bob grŵp. Llwyddodd y gwaith celf gan Iwan o ddail a ffrwythau egsotig i'w hysbrydoli i greu golygfeydd o jyngl ac ynysoedd trofannol. Tynnwyd lluniau o fwncïod, coed palmwydd, parotiaid ac eliffantod etc. gan bob grŵp. Ychydig cyn i'r gloch ganu amser cinio, gofynnais i bob grŵp edrych ar luniau mawr y grwpiau eraill ac i ystyried pa rannau o'r lluniau roeddent yn eu hoffi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar ôl cinio cyflwynais weithgaredd y prynhawn sef archwilio lliwiau a ffurfiau drwy gyfrwng paent. Dangosais olwyn liwiau ar y bwrdd gwyn a buom yn trafod y lliwiau sylfaenol, eilaidd a chyferbyniol. Olew yw prif gyfrwng Iwan ond nid yw'n ymarferol mewn ystafell ddosbarth fawr felly dewisais baent acrylig. Rhywbeth arall a ddefnyddir gan Iwan, a sylwodd y disgyblion ar hyn yn y taflenni, yw fel y mae'n paentio ar wahanol arwynebau fel cynfas, pren a chardfwrdd. Gwnaed sylwadau ganddynt hefyd am ei siapiau sy'n cynnwys cylchoedd, ffurfiau 3D a’r defnydd o ddail go iawn. Roeddwn wedi dewis cardfwrdd siâp petryal a chylchoedd iddynt baentio arnynt ac awgrymais fod croeso iddynt dorri a newid siâp y cardfwrdd os dymunent. Roedd y briff yn agored unwaith eto fel y gallent ddefnyddio'r lluniau a'r brasluniau roeddent wedi eu gwneud yn flaenorol y diwrnod hwnnw i greu paentiad. Gadewais iddynt ddewis a phenderfynu eu hunain pa lwybr i’w gymryd, ac unwaith eto fel gyda'r ysgol flaenorol roedd rhai disgyblion yn llwyddo tra bod rhai eraill yn cadw i ofyn am ganiatâd. Erbyn diwedd y prynhawn roedd llanast creadigol wedi meddiannu'r ystafell ddosbarth, ac roedd y canlyniadau yn haniaethol, lliwgar, myfyriol, petrus, llawn mynegiant a hwyl gyda lluniau o'r jyngl, dail mawr, teigrod a lliwiau haniaethol a hyd yn oed pacman!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

AIL DDIWRNOD:

 

Roedd y sesiwn hon gyda'r dosbarth yn canolbwyntio ar ddarn o waith celf roedd Iwan wedi ei ddewis o'r casgliad celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a'i frasluniau a phaentiadau cynnar yn y project. Dechreuais unwaith eto gan ofyn rhai cwestiynau i alw i gof gwybodaeth am y project ac Iwan, a chafwyd atebion ardderchog gan y disgyblion. Cyn eu cyflwyno i'r llun a ddewiswyd, penderfynais ailadrodd y broses o'r diwrnod cyntaf a chwarae ychydig o gemau tynnu llun gyda'r disgyblion i'w paratoi ar gyfer y diwrnod o'u blaenau. Roedd y gemau hyn yn datblygu eu sgiliau cydsymud llaw/llygad, gwrando a gweithio mewn grŵp ac roeddent yn eu mwynhau'n fawr hefyd.

 

Rhoddais daflenni i'r plant o'r llun a ddewiswyd gan Iwan sef ‘Elephant’ (1928) gan David Jones, a gofynnais i'r disgyblion weithio mewn parau i drafod beth yr oeddent yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi am y llun a pham. Y tro hwn, o gymharu â'r diwrnod cyntaf roedd y disgyblion yn llawer mwy agored a pharod i fynegi eu barn, gan gyfeirio at y ffordd yr oedd David Jones yn defnyddio llinellau du i ddisgrifio siâp yr eliffant a thrafod amgylchedd yr anifail a'u bod yn meddwl ei fod yn beth trist i'w weld mewn lle mor fach a chaeedig. Roedd rhai hyd yn oed yn ddigon hyderus i roi eu rhesymau pam nad oeddent yn hoffi'r paentiad, soniwyd am y diffyg lliwiau llachar o gymharu â gwaith Iwan. Ond pan drafodwyd ym mha flwyddyn yr oeddent yn meddwl y cafodd y paentiad ei wneud, roeddent i gyd yn credu ei fod yn ddarn cyfoes o waith a baentiwyd yn yr 20 mlynedd diwethaf ac fe'u synnwyd i glywed ei fod yn dyddio nôl i 1928. Rhoddais daflenni iddynt o'r brasluniau a phaentiadau a wnaed gan Iwan hyd yma fel rhan o'r project a sut y dechreuodd ei broses artistig yn y project. Roedd y disgyblion yn uniaethu'n gryf â'i ddefnydd o liw gan sylwi ar yr amgylchedd gwahanol i eliffant Iwan, gan gofio'r jyngl a'r syrcas.

 

Gofynnais i'r disgyblion wneud brasluniau gan ddefnyddio'r sgiliau gwneud marciau a ddysgwyd ganddynt yn y sesiwn flaenorol, a defnyddio'r taflenni i'w hysbrydoli gan ddilyn ôl troed Iwan a'i ymateb cyntaf ef pan welodd paentiad David Jones. Wedyn cyflwynais ddeunyddiau arall iddynt eu defnyddio fel pensiliau dyfrlliw a phasteli olew. Buom yn trafod deunydd celf a'r gwahanol rifau ar bensiliau braslunio pan oeddent yn tynnu llun a cheisiais annog y disgyblion hynny nad oeddent yn sicr sut i ddechrau neu'r rhai oedd ddim yn hapus gyda'u lluniau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwnaethom barhau i drafod yr amrywiaeth o ran gweadau ac enghreifftiau o bapur a ddefnyddir gan artistiaid. Dangosais yr olwyn liwiau ar y bwrdd gwyn eto i drafod y theori lliwiau elfennol gan ofyn cwestiynau i alw gwybodaeth i gof a chymysgu paent cyn iddynt ddechrau paentio am weddill y prynhawn. Cafodd y disgyblion y prynhawn cyfan i greu paentiadau ar bapur cynfas â gwead, cardfwrdd a phapur acrylig. Rhoddwyd ystyriaeth i gyfansoddiad a lliw gyda'r brasluniau a'r lluniau a grëwyd ganddynt yn ystod y bore yn eu dylanwadu a'u hysbrydoli.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I gau'r sesiynau, gofynnais ychydig o gwestiynau i alw gwybodaeth i gof am y project ac i'w hatgoffa am yr arddangosfa a fydd yn cynnwys ychydig o'r gwaith a grëwyd yn ystod y deuddydd.

 

bottom of page