top of page

Steffan Jones Hughes

Fel un o'r gwneuthurwyr print mwyaf blaenllaw yng Nghymru, mae gan Jones-Hughes enw da yn fyd-eang fel gwneuthurwr a threfnwr Print International sy'n enwog erbyn hyn. Mae wedi gwneud datganiad cynhwysfawr i'r project hwn ac mae ei gynnyrch toreithiog yn ddi-os wedi cyfrannu'n fawr at ei lwyddiant. Mae ganddo ddiddordeb byw mewn dadadeiladu delwedd, ac mae'r cyfansoddiad a'r ystyr yn datblygu i fod yn elfennau cyfnewidiadwy o'i waith print.

 

 

Steffan Jones Hughes gwaith efo

Francesco Guardi

Llances Gradenigo Teulu Gyda'r Tutur

c.1768–1770

Sylwais gyntaf ar y paentiad fel roeddwn yn cerdded trwy'r orielau ar ddechrau'r project hwn. Fe'm denwyd ato gan fy mod i wedi creu sawl darn o waith oedd yn gysylltiedig â'r syniad o 'dennyn". Yn y gwaith mae merch ifanc ddiniwed yr olwg yn gafael mewn aderyn gerfydd rhuban coch hir; mae hyn yn rhoi'r argraff, er y gall hedfan, nad oes ganddo ryddid; nid yw hi i weld yn ymwybodol o hyn.

Dechreuais ddatgymalu'r gwaith, er mwyn edrych ar y dyfeisiau a'r elfennau cyfansoddi oedd o ddiddordeb i mi. “Y peth oedd yn fwyaf diddorol i mi oedd y rhuban, sut mae'n dyrannu'r gwaith a hefyd am ei fod yn goch llachar, sut mae'n arwain eich llygad trwy'r hyn sydd yn waith syml ac ar yr un pryd yn ddarn cymhleth o theatr. Rydw i'n hoffi'r ffaith bod gan y paentiad ryw fath o ofod o'i fewn, fel cymeriadau ar lwyfan, wedi eu fframio gan y coed ar y ddwy ochr.

Gwaith Francesco Guardi, y peintiwr o Fenis, ddewisais i ei ail-wneud / ail-ddyfeisio, sef “A Young Girl of the Gradenigo Family with a Dove” c.1768–1770.

Wrth i mi gerdded trwy orielau'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd sylwais ar baentiad nad oeddwn wedi ei weld o'r blaen. Roedd yn hongian yn eithaf uchel ar y wal ac yn darlunio merch ddiniwed yr olwg a chanddi aderyn yn sownd â chebystr o ruban coch hir, gan gyfleu, er y gall hedfan, nad yw'n rhydd; cysyniad nad ydi hi'n ymwybodol ohono fe ymddengys. Cefais fy nenu ato gan fy mod i wedi gwneud gwaith fy hun sawl gwaith sy'n ymwneud â'r syniad o gebystr. Roeddwn eisiau myfyrio ynglÅ·n â phaentiad a fyddai'n agor rhyw fath o naratif, a deialog gyda mi.

 

Dechreuais ddadadeiladu'r gwaith, er mwyn edrych ar y dyfeisiau cyfansoddiadol a'r elfennau yr oeddwn yn eu gweld yn ddiddorol. Y peth mwyaf cyfareddol y sylwais i arno oedd y rhuban. Rwy'n hoffi sut mae'n datgymalu'r gwaith, a sut, o fod yn ysgarlad, y mae'n tywys y llygad trwy'r hyn sydd yn ddarn syml iawn o waith ond sydd hefyd yn ddarn cymhleth iawn o theatr. Rwyf erioed wedi edmygu ffilmyddiaeth Alfred Hitchcock ac un o'r dulliau yr oedd ef yn ei ddefnyddio, yn The Birds ac yn Psycho, yw defnyddio tanbeidrwydd coch technicolor fel dolen rhwng golygfeydd. Rwy'n hoffi sut y mae gan y paentiad fath arbennig o ofod ynddo, megis cymeriadau ar lwyfan, wedi eu fframio gan goed ar y naill ochr a'r llall. Bûm yn parhau i ail-lunio'r gwrthrych a'i ddatblygu er mwyn iddo adlewyrchu fy ngwaith a'm harddull i. Roedd gen i ddiddordeb mewn datblygu'r cysyniad hwn o un cymeriad yn cael ei reoli gan gymeriad arall diniwed yr olwg. Mae gen i ddiddordeb yn sut y gellir archwilio perthnasau yn fy ngwaith a sut y gellir edrych ar bethau a'u derbyn ar eu golwg, ond gall hefyd fod iddynt isgerhyntoedd eraill. Deuthum i fod â diddordeb mewn elfennau eraill o'r gwaith; Yr anifail anwes tegan bychan. Ci bychan, cydymaith, ond eto creadur sy'n dibynnu ar wrthrych y gwaith, y ferch, am ei fodolaeth. Yn y cefndir mae ceffyl ac un, neu o bosibl ddau, o bobl ger bwa buddugoliaethus. Mae aderyn arall, partner, yn rhydd yng nghanghennau coeden ac efallai yn fwy diddorol na dim mae llongddrylliad bach ar lan pwll. Roedd yr elfennau hyn yn fwy swyno. Ar ôl gweithio, yn bennaf mewn fformat digidol (Rwy'n defnyddio iPad fel math o ofod stiwdio rhithiol), symudais i dorlun leino er mwyn cynhyrchu print. Rwy'n parhau i dynnu oddi ar theatredd gofod y paentiad yn fy ngwaith. Rwy'n hoff o'r ffordd y mae coed yn gweithredu fel dyfais gyfansoddiadol sy'n fframio'r olygfa. Roedd hyn yn fy atgoffa o baentiadau'r Dadeni Cynnar megis paentiadau Giotto o Sant Ffransis neu Noli Me Tangere gan Duccio. Ond yna mae hefyd yn fy nghysylltu ymlaen at Ken Kiff, ac at gynlluniau llwyfan David Hockney. Sylweddolaf y byddaf yn gweithio'n aml mewn gofod gwastad artiffisial yn fy nyluniadau. Roeddwn eisiau datblygu gwaith newydd a oedd yn cyfeirio at y ffynhonnell ond nad oedd yn uniongyrchol. Mewn ffordd daeth dylanwad y darn hwn ar amrantiad ac yna arhosodd y ddelwedd a pharhau i ysbrydoli dros sawl mis. Mae'n dda datblygu perthynas gyda gweithiau penodol. Drwy edrych yn iawn ar ddarn o waith celf mae modd i chi ddatblygu rhagor o wybodaeth am yr hyn yr edrychwch arno. Yn yr achos hwn doedd gen i ddim diddordeb mewn techneg paent nac yn nhrawiad y brwsh, a byddai wedi bod yn anodd gweld hynny mewn oriel beth bynnag. Roedd gen i ddiddordeb yn y ddelwedd ei hun a'r stori y mae'n ei hawgrymu. Roedd modd i mi weithio yn bennaf oddi ar atgynhyrchiad ac oddi ar fy nghof. Mae'r meddwl yn dal delwedd ac yn mwyhau'r elfennau y mae'n eu hystyried yn berthnasol. Nid wyf yn teimlo fel pe bai'r broses o ymgymryd â'r ymchwil hwn yn arwain at gasgliad naturiol gan fod syniadau'n aml yn ailddigwydd mewn gwaith yn y dyfodol, fodd bynnag, rwyf yn hapus i rannu'r broses ddatblygu ac mae'r torlun leino yn teimlo fel canlyniad penodol.

bottom of page