top of page

John Hedley

Mae Hedley yn baentiwr a gwneuthurwr printiau profiadol iawn. Ar hyn o bryd mae'n ymddiddori mewn ymchwil i ysgythru ffotograffau gyda'r Edinburgh School of Art a Choleg Llandrillo. Mae ganddo brofiad a gwybodaeth helaeth am wneud printiau intaglio ac mae ei ddehongliad o waith celf yn y Casgliad Cenedlaethol wedi datgelu materion technegol gwrthdrawiadol ym maes gwneud printiau a gwneud delweddau.

 

John Hedley gwaith efo

Ben Nicholson

1940–43

Dewisais Two Forms Ben Nicholson oherwydd y teimlad o ofod tri dimensiwn y mae wedi ei greu o ffurfiau haniaethol syml ac er mwyn darganfod pam a sut y dylanwadodd Mondrian arno. Deuthum yn ymwybodol o sut y dechreuodd siapiau L yn y cyfansoddiad greu rhith o drydydd dimensiwn. Dechreuais drwy wneud cyfres o astudiaethau lliw acrylig ar bapur gan gadw fformat tebyg i'r gwreiddiol gyda'r bwriad o wneud y lluniau'n fwy tri-dimensiwn. Cymerwyd y lliw o ddau lun haniaethol a beintiais yng Nghreta. Dim ond un llun oeddwn i am ei gael yn wreiddiol, ond roeddwn yn teimlo y gallwn archwilio'r cysyniad o ddwy ffurf ymhellach drwy ei ail-weithio fel triptych.

 

O hyn, gwnes dair cerfwedd, lle tynnais y petryalau a ganfyddais yn llun Ben Nicholson a'u hadeiladu mewn haenau o bren haenog. Pan ddechreuais beintio ar y ddwy gerfwedd lawn defnyddiais baent acrylig ar gyfer yr haen gyntaf, ac olew ar gyfer yr haenau dilynol. Datblygwyd y ddwy ddelwedd yma o'r gerfwedd o'r astudiaethau lliw acrylig lle bûm yn arbrofi drwy roi haenau o liwiau anhryloyw a thryloyw ar ben ei gilydd gan ganiatáu i'r lliw o danodd ddod drwodd mewn rhai mannau. Mae'r ddelwedd ar y dde yn ddrych o'r un ar y chwith. Dechreuais drwy wneud yr ochrau'n daclus a chedwais yr haenau'n gyson ym mhob petryal. Wedyn, datblygais y rhain ymhellach drwy dorri'r ochrau a gwneud haenau a newid cysondeb y paent.  Roedd hyn yn fwy cydnaws â'm harferion peintio i fy hun ac arferion artistiaid yr ydw i'n eu hedmygu fel Rothko, Hoyland ac Irwin yn ogystal â phaentiadau a cherfweddau diweddarach Nicholson. Dechreuais drwy wneud haenau o liwiau cyflenwol a gadael i bosibiliadau lliw eraill esblygu. Mae'n ddiddorol gweld sut mae'r cysgodion yn newid y lliw mewn golau gwahanol.

 

Roedd y panel canolog wedi ei wneud o ddur, oedd yn un ffurf o falansio'r ddwy ddelwedd allanol. Wrth ysgythru'r dur mewn sylffad copr gan ddefnyddio saim fel gwrthydd, gloywi'r dur a gweld y dur yn rhydu, gwelais bod potensial i gyfosod y prosesau gwahanol ond tebyg hyn fel cerfwedd. Gwnes y gerfwedd ddur drwy gysylltu'r darnau dur perthnasol i bren haenog ac yna adeiladu'r gerfwedd mewn ffordd debyg i'r cerfweddau a beintiwyd. Ysbrydolwyd fi gan y broses i wneud cyfres o gerfweddau dur llai.

 

Gan fyfyrio ar y triptych gorffenedig ac wedi gweld y cerfweddau oedd yn bren i gyd, penderfynais wneud pedwaredd gerfwedd allan o bren, a fydd yn cael ei harddangos ar wahân. Ar ôl gosod y pren penderfynais ychwanegu cŵyr calch, oedd yn gwneud y pren yn ysgafnach, ac roedd hefyd yn helpu i weld graen y pren. O'i arddangos yn y golau cywir mae cysgodion y petryalau yn helpu i chwyddo'r elfen dri-dimensiwn mewn ffordd ddiddorol iawn.

Mae gennyf ddiddordeb wedi bod erioed mewn celf haniaethol bur er fy mod yn gweithio'n bennaf o natur. Drwy wneud y project hwn rwyf wedi darganfod sut y gall gwahanol brosesau newid cymeriad a chysyniad y ddelwedd haniaethol. Mae fy niddordeb diweddar mewn peintio eiconau a datblygu haniaethau organig gan ddefnyddio darnau o bren yn adlewyrchu'r tebygrwydd i adeiladu haenau sy'n fy helpu i ddatblygu syniadau a dulliau newydd o weithio. Mae'r project wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy natblygiad fel artist.

bottom of page