top of page

Cysyniad

Un o egwyddorion cynhyrchu artistig yw ailddyfeisio ac ail-ddehongli’r fethodoleg a ddefnyddiwyd gan artistiaid blaenorol. Mae'r feirniadaeth bod 'celf am gelf' yn wir yn ei hanfod ac mae gan ddehongli syniadau, cysyniadau a dulliau rôl ganolog yn y byd celf gyfoes. Gallwn ddechrau drwy ystyried gwaith Richard Hamilton, Sam Taylor Wood a Leon Kossof sydd, yn achlysurol, yn ystod eu gyrfaoedd wedi dadansoddi gwaith cyn artistiaid wrth ymarfer. Roedd Picasso, ffigur mawr y byd celf yn y ganrif ddiwethaf, yn ail-weithio celf pobl eraill dro ar ôl tro gan ddychwelyd yn aml i wahanol gyfnodau gwaith gan artistiaid fel Velasquez a Delacroix. Mae Picasso ei hun wedi cael ei ail-ddehongli gan nifer o artistiaid yng nghanol a diwedd yr ugeinfed ganrif, a chyfeiriwyd ato'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan Ceri Richards er enghraifft, ymysg nifer o rai eraill. Mae celf weledol yn gweithredu fel llif parhaus yn ail-ddehongli ac ailddiffinio drwy ddeunyddiau a phrosesau.

 

Mae Ail-wneud, Ail-ddyfeisio yn archwilio'r syniadau sydd y tu ôl i'r gwaith celf, sef y cyd-destun damcaniaethol, hanesyddol neu gysyniadol. Yr hyn sy'n gwahanu'r project oddi wrth unrhyw un blaenorol, yw'r dull o ganolbwyntio ar y broses o wneud celf newydd o waith celf flaenorol; y gwaith meddwl drwy ddehongli a datblygu syniadau newydd y gellir eu gweld mewn brasluniau, astudiaethau a llyfrau gwaith. Felly meddwl trwy ddehongli yw'r prif ffocws a bydd y canlyniadau yn rhai archwiliol a phen agored yn hytrach na dod i unrhyw gasgliad. Mae'r artistiaid sy’n rhan o’r project Ail-wneud, Ail-ddyfeisio yn dehongli'r gwaith o'u dewis o safbwynt beirniadol eu hymarfer cyfredol ac felly'n ystyried sut gall y gwaith celf o'r casgliad gael ei ail-ddehongli a'i ail-ddiffinio o fewn ymarfer celf gain gyfoes.

 

Diben y project yw archwilio priodoleddau cynhenid yr ymarfer stiwdio yn ystod y ddwy flynedd o gynhyrchu. Hynny yw, meddwl am syniadau a'u datblygu trwy wneud a thrafod. Mae gweithio gyda deunyddiau, cerrig, paent neu siarcol yn golygu meddwl yn greadigol trwy ddefnyddio deunyddiau. Mae prosesau fel ffotograffiaeth, gwneud printiau a phaentio yn golygu bod rhaid bod yr un mor benderfynol wrth ddefnyddio cyfarpar, offer a deunyddiau. Felly dangos y fethodoleg o wneud o fewn cyd-destun stiwdio'r artist yw prif ddiben y project hwn. Er bod y stiwdio yn lloches yn rhannol, lle gellir ystyried celf ac athroniaeth ar eich pen eich hun, mae'r stiwdio hefyd yn gweithredu fel y prif ganolfan i brojectau archwilio sy'n cynnwys cydweithio a chyfranogi. Mae rôl yr artist heddiw yn golygu bod rhaid bod yn entrepreneur, trefnydd, gweinyddwr a chyfathrebwr (mewn nifer o wahanol ffyrdd) ac yn gallu trafod gyda'r cyfryngau a threfnu strategaethau effeithiol i rwydweithio. Ond mae swyddogaeth ganolog ymarfer stiwdio yn aros yr un fath, sef y cysylltiad sylfaenol gyda’r gwneud a cheisio deall ein lle yn y bydysawd trwy wneud gwaith creadigol. Mae'r project hwn yn dathlu'r ymarfer artistig gweledol y mae'n rhaid i artistiaid ymddiddori ynddo ac yn hytrach na'i ddadansoddi nes ei fod yn ddim, mae'n archwilio meddwl ac ystyr creadigol gweledol fel rhywbeth sy'n rhan bwysig iawn o ymchwil seiliedig ar ymarfer.

 

Y Broses

Mae’r pwyslais a roddir ar y broses weithio ac ymarfer stiwdio yn rhan bwysig o'r project ac mae yr un mor bwysig ag unrhyw 'ddarn terfynol' o waith celf.

I'r 15 o arlunwyr sy'n cymryd rhan yn y project hwn mae’n gyfle gwerthfawr i hybu eu cynnydd drwy'r broses weithio. Mae cymryd rhan yn y project yn annog dull sy'n canolbwyntio ar y gwneud mewn diwylliant o ymchwil yn seiliedig ar ymarfer; mae'n bendant yn arbrofol ac efallai’n cyd-fynd ag arferion cyfredol ond yn cwestiynu'r patrwm presennol. Mae’r project yn archwilio’r broses o ddehongli'n oddrychol (y gwaith celf a ddewisir) a'r mater ehangach o feddwl yn weledol drwy amlygu'r ymarfer stiwdio. Mae'r project yn meithrin trafodaeth am ddefnyddio celf gain yn y maes proffesiynol, addysgol, academaidd a chyhoeddus ac ysgogi trafodaeth am gelf a llunio arolwg cynhwysfawr o ymarfer gweledol. Caiff hyn ei gyflawni yn ystod y cyfnod dwy flynedd o gynhyrchu drwy gyfrannu at y project blog, y wefan a thrafodaethau gyda'r gymuned, ysgolion, myfyrwyr a grwpiau drwy weithgareddau sydd wedi eu trefnu a rhai unigol ac anffurfiol. 

 

Project Blog AIL-WNEUD / AIL-DDYFEISIO RE-TAKE/RE-INVENT :

http://retakereinvent.blogspot.co.uk

 

O ganlyniad i gymryd rhan yn y project, bydd pob un o'r 16 ymarferwr ar hyd a lled y rhanbarth yn creu effaith ar eu cymunedau penodol. Er enghraifft, erbyn diwedd 2015 bydd rhywfaint o'r gwaith wedi ei gwblhau a gall y cyfranogwyr gyflwyno gwaith mewn arddangosfeydd rhanbarthol a chenedlaethol gan felly cynyddu'r cynulleidfaoedd i'r project. Mae hyn yn enghraifft o sicrhau bod yr ymarfer ar gael i'r cyhoedd mewn gwahanol sefyllfaoedd a disgwylir y bydd y cyfranogwyr unigol yn lledaenu eu gwaith mewn ffyrdd amrywiol a sylweddol. Mae gan y project strategaethau penodol i ledaenu ymarfer stiwdio.

 

Ffilmiau

Yn ystod y cyfnod pan fydd pob cyfranogwyr yn gwneud y gwaith, byddwn yn ymweld â stiwdio pob un ohonynt i ffilmio cyfweliad. Caiff hyn ei ddatblygu i fod yn ffilmiau am yr artistiaid unigol ac yn ffilm am y prif broject. Bydd ar gael i'w ddangos yn gyhoeddus mewn arddangosfeydd ac ar-lein.

 

Portread Ffotograffig

Yn ystod y flwyddyn gynhyrchu, bydd y ffotograffydd Graham Hembrough yn ymweld â stiwdio pob cyfranogwr ac yn gwneud portread ffotograffig o'r artist a'i stiwdio. Bydd hwn ar gael yn yr arddangosfa, mewn cyhoeddiad ac ar-lein.

 

Gweithdai Ysgolion

Mae'r project yn rhoi cyfle ardderchog i grwpiau o ysgolion a grwpiau cymunedol gymryd rhan yn y broses greadigol weledol yn ystod y blynyddoedd cynhyrchu. I'r perwyl hwn, cynhaliwyd tri phrif weithdy gydag ysgolion cynradd yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Mae'r hwylusydd ac artist, Rebecca F. Hardy wedi datblygu a chyflwyno tri gweithdy dau ddiwrnod gydag Ysgol Yr Hendre, Caernarfon; Ysgol Pen y Bryn, Bae Colwyn ac Ysgol Y Graig, Llangefni. Mae'r cyfranogwyr hefyd wedi cael grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn sgyrsiau ac ymweliadau â'u stiwdios ac mewn sawl achos cafwyd rhagor o gydweithio manwl, er enghraifft gan Gareth Griffith a Marged Pendrell. 

 

Arddangosfeydd

Cynhelir yr arddangosfeydd cyntaf o fis Medi 2016 yn lleoliad y prif bartner yn Oriel Ynys Môn, Llangefni ac yr yn un pryd yn Storiel, Bangor a'r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy. Mae'r cyflwyniad tair ochrog hwn yn uchelgeisiol a bydd yn sicrhau'r sylw mwyaf posibl i'r gwaith a ddatblygir yn ystod y project gan bob artist unigol.

 

Amserlen

1. Y Broses Weithio a’r Ymarfer Stiwdio

Hydref 2014 i fis Mehefin 2016, lansio Hydref 2014.

2. Prif Weithdai Ysgolion

Mai i Fehefin 2015.

3. Presenoldeb ar-lein Project blog parhaus.

Gwefan yn cael ei llunio.

4. Arddangosfa

Oriel Ynys Môn - 24 Medi i 6 Tachwedd 2016

Storiel Bangor - 24 Medi i 12 Tachwedd 2016

Yr Academi Frenhinol Gymreig - 10 Medi i 15 Hydref

bottom of page