y broses weithio a’r ymarfer stiwdio: celf newydd o gelf flaenorol
Gwybodaeth Am Weithdai Celf Yr Ysgol
ThMae'r project yn rhoi cyfle ardderchog i grwpiau o ysgolion a grwpiau cymunedol gymryd rhan yn y broses greadigol weledol yn ystod y blynyddoedd cynhyrchu. Bwriedir cynnal tri gweithdy dau ddiwrnod gydag ysgolion cynradd yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Bydd y gweithdai wedi'u cynllunio o gwmpas y broses o wneud ffurfiau celf newydd o hen ffurfiau ac fe'u bwriedir yn benodol i ryngweithio gyda'r broses barhaus o feddwl a gwneud drwy fynd i'r afael ag ymarfer y stiwdio yn hytrach nag adolygu gwaith celf neu arteffact gorffenedig mewn oriel neu amgueddfa. Yn dilyn cyfarfod gyda Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol, rhoddwyd blaenoriaeth i'r angen am weithdai i ysgolion cynradd, ac wrth eu cynllunio dywedwyd y byddai tri gweithdy dros ddau ddiwrnod yn fwy effeithiol na gweithdai undydd byr. Felly disgwylir y bydd nifer fawr yn cymryd rhan yn y broses a bwriedir dangos gwaith y myfyrwyr yr un pryd â'r prif arddangosfeydd fel bydd y cyfleusterau'n caniatáu.
Gweithdai gan Rebecca Hardy Griffith
Ysgol Pen Y Bryn, Colwyn Bay
Artist a ddewiswyd: Steffan Jones-Hughes
Disgyblion: Cyfnod allweddol 2/Blwyddyn 5
Nifer: 56 (Diwrnod 1: rhannwyd yn 2 grŵp, Diwrnod 2: rhannwyd yn 5 grŵp)
Gyda chefnogaeth: Diwrnod 1: Un athro i bob dosbarth ac un myfyriwr i gefnogi un disgybl gydag anawsterau dysgu. Diwrnod 2: Myfyriwr i gefnogi un disgybl gydag anawsterau dysgu ar gyfer un sesiwn mewn grwpiau.
Pan oeddwn yn ymchwilio ac yn paratoi i'r gweithdai celf i ddechrau, roeddwn wedi gobeithio dewis artist o'r rhestr o gyfranwyr o bob sir. Yn anffodus nid dyma'r sefyllfa gyda sir Conwy. Fy mhrif reswm am hyn oedd er mwyn i'r disgyblion ymddiddori yn yr artist o'r dechrau ac i deimlo cysylltiad ond ni chredaf fod y ffaith i mi ddewis artist o sir gyfagos wedi eu rhwystro mewn unrhyw ffordd.
I chDewisais yr artist Steffan Jones-Hughes gan fy mod yn gyfarwydd â'i waith celf, teimlwn y byddai ei allu amryddawn a'r amrywiaeth o gyfryngau a ddefnyddia Steffan yn creu gweithdy diddorol a fyddai'n ennyn diddordeb ac ymateb y disgyblion. Byddai ei broses o ddeunyddiau yn ogystal â phwnc ei waith yn gwneud testun agored gwych i'r disgyblion ei drafod. Felly roedd y gweithdai yn ymarfer gweithredol a llafar i'r disgyblion fel y gallent ymestyn eu meddyliau creadigol yn ffisegol ac yn feddyliol. Roedd y gweithdy dau ddiwrnod wedi'i rannu'n ddwy ran, gyda'r diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar yr artist a ddewiswyd o'r project, a'r ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar y project a'r gwaith celf a ddewiswyd gan yr artist.
DIWRNOD CYNTAF:
Oherwydd nifer y disgyblion rhannwyd y gweithdy yn ddwy sesiwn i bob dosbarth ac roedd y sesiynau'n para tua dwy awr a hanner. Strwythur y sesiynau ar y diwrnod cyntaf oedd cyflwyno'r project, yr artist a gwaith yr artist gan ddefnyddio gemau tynnu llun, taflenni, trafodaeth dosbarth cyfan, gweithgaredd grŵp, gwaith annibynnol a gwerthuso. Ar ôl cyflwyno'r project i'r disgyblion a chyhoeddi enw'r artist, penderfynais gyflwyno'r sesiwn yn raddol i'r disgyblion gyda gemau tynnu llun sydyn a llawn hwyl i'w hatgoffa o'r pleser o fynegiant rhydd ac i beidio â chymryd gormod o ofal gyda'r llun gorffenedig. Mae’n ffordd dda hefyd o ymarfer eu cydsymudiad llaw/llygad a'u cael i feddwl yn sydyn. Ar ôl cyffro a chynnwrf y gêm gyntaf, cyflwynais weithgaredd arall iddynt sef gwneud marciau, gweithgaredd lle mae gair a gweithred wedi'u symleiddio. Trafodwyd gwneud marciau a sut y gellir eu defnyddio yn eu gwaith celf. Roedd yn wych gweld pa mor gyflym yr oedd y disgyblion yn amsugno'r wybodaeth a gyda chymorth yr athro dangoswyd hunanbortread wedi'i ysgythru gan Rembrandt ar y bwrdd gwyn ac arweiniodd hynny at drafodaeth agored am yr amrywiaeth o farciau a ddefnyddiwyd gan Rembrandt.
Yn nesaf, rhoddwyd taflenni mawr o bapur ar draws y byrddau, gyda'r disgyblion yn rhannu'r gofod ar y papur gan fod yn ystyriol ac ymwybodol o luniau ei gilydd. Y gweithgareddau y gofynnwyd i'r disgyblion eu gwneud oedd tynnu llun rhywbeth o'r gêm gyntaf (gweithred cofio), a'i dynnu eto gan ddefnyddio'r llaw arall (her), ei dynnu eto gyda'u llygaid ynghau (her ychwanegol) ac yn olaf rhoddwyd y disgyblion mewn parau. Roedd un disgybl yn dal y pensil a'r llall yn symud llaw ei bartner o gwmpas y papur i dynnu llun ac yna roeddent yn newid drosodd. I orffen y gemau tynnu llun, gofynnais gwestiynau caeedig ac agored i'r disgyblion ynglŷn â'r gweithgareddau, a pha gêm wnaethon nhw ei mwynhau? A pha weithgaredd oedd yn anodd? Roedd y dosbarth yn fwy na pharod i rannu eu barn, roedd gweithio mewn parau yn ddewis poblogaidd a defnyddio'r llaw arall neu lygaid ynghau oedd y gweithgareddau mwyaf heriol. Cafwyd yr un ateb gan y ddau ddosbarth.
Yn dilyn y drafodaeth, gofynnais gwestiwn galw gwybodaeth i gof iddynt am y project. Gofynnais iddynt i ble y teithiodd yr artist o ogledd Cymru a pha oriel aethant i'w gweld? Beth oedd enw'r artist yr oeddent ym mynd i'w astudio? Ar ôl cael yr ateb cywir, rhoddwyd gwahanol luniau o waith celf Steffan i'r disgyblion o'i gyfres Adar a'i gyfres Financial Times a gofynnwyd iddynt edrych ar y gwaith celf ar y taflenni am ychydig o funudau. Yna cafwyd trafodaeth fel dosbarth am y deunyddiau a ddefnyddiwyd gan Steffan a beth, yn eu barn nhw, oedd y neges yng ngwaith celf Steffan. Y geiriau a grybwyllwyd oedd adrodd stori, mytholeg a chwedlau. Gofynnais i'r disgyblion weithio mewn grwpiau i drafod beth yr oeddent yn ei hoffi a/neu ddim yn ei hoffi am ei waith celf a pham. Ac os oeddent eisiau rhannu eu barn yn agored gyda'r dosbarth. Cafwyd canlyniadau gwych gan fod y ddau ddosbarth yn hyderus iawn ac ar adegau yn llym eu barn ynglŷn â gwaith celf Steffan. Roedd yn syndod ac yn bleser i mi glywed eu gonestrwydd a hefyd eu gallu i adfyfyrio a rhoi rhesymau am eu barn. Ymunodd un o'r athrawon yn y drafodaeth a gofyn cwestiynau i'r disgyblion am un o'r gweithiau celf o'r gyfres Financial Times, gan ofyn cwestiynau treiddgar i'r disgyblion i'w hannog i ystyried y neges yr oedd Steffan yn ceisio ei chyfleu. Wrth edrych yn ôl, byddai wedi bod yn gyfle ardderchog i wneud fideo o'r sgyrsiau hyn.
Yn dilyn y drafodaeth cafwyd sesiwn ymarferol, a thrafodwyd proses yr artist a faint o artistiaid sy'n dechrau ar eu gwaith drwy wneud brasluniau a lluniau. Gofynnais i'r disgyblion greu braslun wedi'i ysbrydoli gan waith celf Steffan gan ddefnyddio pensiliau lluniadu.
Y broses nesaf a'r gweithgaredd olaf yn y sesiwn oedd rhannu'r disgyblion i grwpiau bach o 5/6 a rhoi nifer o wahanol ddeunyddiau iddynt yn cynnwys tagiau labeli, papur newydd, papur brown etc. Roedd rhaid i rai weithio'n unigol ar raddfa fechan gydag eraill yn cydweithio ar un darn mawr o bapur. Yr unig beth oedd yn debyg ac yn eu cyfyngu oedd bod rhaid iddynt greu rhywbeth oedd wedi ei ddylanwadu gan waith celf Steffan gan ddefnyddio paent du a gwyn yn unig. Nhw oedd yn penderfynu beth i'w baentio, ffrwyth eu dychymyg nhw ydoedd; nhw oedd yn gyfrifol am y creu. Creodd rai gopïau o'r gweithiau gwreiddiol, gydag eraill yn ei gweld hi'n anodd cael y rhyddid i ddewis. Aeth rhai gyda'r syniad a mynd yn sownd mewn creu pob math o batrymau a chreaduriaid. Nid yw'n syndod bod un athro yn meddwl bod y broses yn anhrefnus heb strwythur pendant ac eglurais fy rhesymau. Nid oeddwn eisiau 56 copi o waith Steffan wedi'i ail-greu ond roeddwn eisiau iddynt greu gwaith celf wedi'i ddylanwadu gan waith Steffan. Mae rhai erthyglau wedi mynegi y gall cwricwlwm ysgolion lesteirio creadigrwydd plant drwy wneud iddynt anelu ac ymdrechu'n barhaus at greu darn perffaith o waith ac os nad yw'n cyrraedd safonau'r athro neu ddim yn union fel y dylai gael ei gyflwyno, ystyrir nad yw'n ddigon dda.
AIL DDIWRNOD:
Oherwydd cyfyngiadau o ran lle, cyfleusterau ac amser, rhannwyd y 56 disgybl ar ail ddiwrnod y gweithdy yn 5 grŵp gyda phob un yn cael sesiwn 50 munud. Felly roedd gennym 4 grŵp o 12 ac un grŵp o 8. Roedd y sesiynau bach hyn yn fywiog, yn hwyliog a llawn gwybodaeth. Dechreuwyd y sesiwn trwy eu hatgoffa o weithgareddau'r diwrnod cyntaf, gan ofyn cwestiynau i'r myfyrwyr am y project ac a oeddent yn cofio enw'r artist? Beth oeddent yn ei hoffi am waith celf yr artist? Yna rhoddais gyflwyniad am amcanion sesiwn y dydd a'r gwaith celf yr oedd Steffan wedi'i ddewis o gasgliad yr oriel. Cyn dangos llun o'r gwaith, gofynnais i'r myfyrwyr pa fath o arddull/thema yr oeddent yn meddwl y byddai'r artist yn ei ddewis. Cafwyd rhai atebion gwych i hyn a syndod pan ddangosais y darn o waith a ddewiswyd. Rhoddais amser i'r disgyblion edrych ar y llun am ychydig cyn gofyn iddynt beth oedd eu barn am y paentiad. Roeddent yn ddisgyblion a oedd yn gallu siarad yn dda ac yn meddu ar farn, cafwyd ymateb cymysg ond gwych wrth eu gweld yn dewis elfennau o'r llun o'r blaendir a'r cefndir.
Eu gweithgaredd cyntaf oedd creu llun wedi'i ysbrydoli gan y paentiad ac i'w helpu dangosais daflenni o luniau gan Steffan a oedd wedi'u hysbrydoli gan y paentiadau lle'r oedd wedi defnyddio siarcol, print a lluniau tabled. Trafodwyd o fewn y grwpiau pa ddeunyddiau a ddefnyddiodd i greu'r lluniau ac a oeddent yn gallu gweld pa rannau o'r paentiad oedd wedi ei ysbrydoli, er enghraifft y patrwm ar ffrog y ferch, y rhuban rhwng yr aderyn a llaw'r ferch, lliwiau'r paentiad. Yna roeddent yn dechrau ar y gweithgaredd ymarferol cyntaf. Gan fod y disgyblion yn gweithio ar wahanol gyflymder, crëwyd mwy nag un llun gan rai gydag eraill yn dechrau arlliwio a defnyddio sgiliau gwneud marciau a ddysgwyd o'r sesiwn flaenorol. Gofynnais i'r grŵp gasglu o'm cwmpas wrth i mi ddangos y gweithgaredd nesaf sef printio sydyn. Fel man cychwyn, roeddent yn defnyddio eu lluniau neu ran o'u lluniau i farcio'r dalennau sbwng printio sydyn i'w printio. Roedd y ddau weithgaredd hyn yn rhoi gwybodaeth i'r disgyblion am broses yr artist, o'r ysbrydoliaeth i'r syniad ac i'r gwaith celf gorffenedig, gan werthuso ac ailadrodd llawer yn ôl theori cylch Kolb.
Unwaith yr oedd y disgyblon yn barod, symudwyd ymlaen i'r weithfan brintio. Roeddwn wedi dewis lliwiau o'r paentiad ar gyfer inciau'r print ac amrywiaeth o bapurau i bob grŵp eu defnyddio fel papur glas ar rolyn ar gyfer y darn grŵp a dalennau mawr A3/A2 ar gyfer y gwaith mewn parau. Roedd hyn yn caniatáu gwaith tîm, disgyblion yn gwerthfawrogi gwaith ei gilydd ac yn cyfaddawdu, a dysgu am gyfansoddiad a lle. Roedd hefyd yn caniatáu cymysgedd o weithiau celf ar bapur amrywiol fel y gallai Andrew ddewis rhai ohonynt ar gyfer yr arddangosfa. Roedd y sesiynau byr hyn gyda nifer fechan o ddisgyblion yn effeithiol iawn, a llwyddwyd i roi syniadau a sylwadau un i un i'r disgyblion. Roedd llawer o'r myfyrwyr eisiau aros gyda fi a pharhau i greu drwy'r dydd ond yn anffodus oherwydd diffyg lle/cyfleusterau yn yr ysgol, y nifer fawr o fyfyrwyr a diffyg amser nid oedd yn bosibl.