y broses weithio a’r ymarfer stiwdio: celf newydd o gelf flaenorol
Huw Jones
Mae Jones yn baentiwr tirluniau sy'n byw ac yn gweithio ar Ynys Môn. Mae ganddo agwedd unigryw at baentio ac mae ei waith o'r lleoedd o amgylch ei stiwdio yn Rhoscolyn yn dangos gweledigaeth gyfoes gyda defnydd unigryw iawn o liw. Mae Jones yn baentiwr cynhyrchiol ac mae ganddo nifer o arwyr ond mae wedi canolbwyntio ar un yn arbennig wrth wneud astudiaeth fanwl o waith artist arall.
Huw Joners gwaith efo
Eglwys Gadeiriol Rouen
1892–1894
Haenau o baent acrylig wedi ei deneuo â chyfryngau - arafwr, cyfrwng gwella llif a'r peth gorau un, cyfrwng cymysgu sy'n sychu'n araf. Mae'r haenau'n sychu'n gyflym, maent yn eithaf tryleu, ac yn creu llenni tenau sy'n gwneud y ffurfiau'n llai sicr, yn fwy awgrymedig. Unwaith mae’r haenau cyntaf wedi sychu, maent yn gwahodd mwy o haenau, gan ail-lunio ac yn ailddiffinio, yn pylu yna'n miniogi, pob haen yn ychwanegu at yr 'amlen' golau.
Dydw i ddim yn mynd yn agos at gyfoeth Eglwys Gadeiriol Monet ac efallai bydd yn rhaid i mi ailddechrau defnyddio olew, er nad oes modd gwybod pa gyfuniad o gyfryngau a ddefnyddiodd Monet. Ar hyn o bryd rydw i'n mwynhau gweithio gyda phaent acrylig ac ymchwilio i wahanol nodweddion cyfryngau acrylig.
Deuthum yn ymwybodol gyntaf o hanes celf drwy atgynyrchiadau o weithiau arlunwyr enwog mewn cyfres o lyfrau yn yr ystafell gelf yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst. Gweithiau'r Argraffiadwyr a'r Ôl Argraffiadwyr oedd fwyaf trawiadol i mi oherwydd eu ffresni a'u lliwiau tanbaid. Wrth i mi dreiddio'n ddyfnach i'w gwaith yn ddiweddarach, gwelais fod Monet yn ei waith diweddarach wedi gwthio i feysydd newydd o fynegiant darluniadol, gan gyfeirio'r ffordd at Gelf Fodern. Gwelais y darlun ei hun am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 1989. Cefais fy syfrdanu mor wahanol oedd y darlun gwirioneddol o'i gymharu â'r atgynhyrchiad ohono. Wrth edrych ar yr arwyneb yn agos gwelir ei fod yn cynnwys globylau wedi eu paentio'n drwchus, efallai gyda chyllell baled, ond mae'n fwy na thebyg gyda brws gwlyb llydan, fflat. Defnyddir lliwiau cyflenwol tawel i ddiffinio ffurfiau a manylion arwyneb, ac mae siapiau'n ymdoddi i'w gilydd a'r paent yn ffurfio ceudyllau ac agenau. O edrych arnynt ymhellach yn ôl mae'r mannau hyn, sy'n ymddangos i ddechrau'n haniaethol, yn ymffurfio'n argraff Monet o arwyneb yr eglwys gadeiriol a'r awyrgylch rhwng yr arlunydd a'r adeilad ar yr union adeg honno o'r dydd. Felly, pan grybwyllwyd y project, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gweithio o'r gwaith celf pwerus hwn. Meddyliais y gallwn archwilio proses baentio Monet, gan gyfosod lliwiau cyflenwol i gyfleu ffurf ac adeiladu haenau o baent. Hefyd, mae'r syniad o gyfres o baentiadau wedi bod o ddiddordeb i mi bob amser. Mae'n rhoi cyfle i arbrofi a chwarae gyda phaent, gan adael i ddelweddau ddod i'r amlwg o wahanol fannau cychwyn a phwysleisio gwahanol elfennau darluniadol. Ffactor arall yn fy newis oedd fod gen i gopi o 'Monet's Cathedral, Rouen 1892 - 1894' gyda rhai atgynyrchiadau gwych, a dwy dudalen yn dangos y gyfres gyfan gyda'i gilydd. Cefais wybodaeth ddefnyddiol o hyn ar fwriadau a thechnegau Monet. Defnyddiol hefyd oedd 'The Colours of Time' Virginia Spate a 'Monet by Himself' Richard Kendall, ynghyd â llythyrau oddi wrth yr arlunydd at ei werthwr Paul Durand-Ruel ymysg eraill. Mae ei ohebiaeth gydag Alice ei wraig o Rouen yn dangos gymaint o ymdrech ac o gymysgedd emosiynau yr oedd yn mynd drwyddynt.
"Y bore ma nid oeddwn yn teimlo'n dda o gwbl, roedd fy mhethau ar hyd y lle mewn anrhefn llwyr ac roedd fy narluniau'n edrych yn erchyll yn y golau newydd. Yn fyr, fydda i ddim yn medru gwneud unrhyw beth gwerth chweil; y cyfan sydd yma ydi haenau o liwiau, ond dydi o ddim yn ddarlun. Fe wna i ddal ati am un wythnos arall fel na fydda i'n difaru, ond mae arna i ofn na fydd o i ddim diben. Beth ydi hyn sydd wedi gafael ynof i, i wneud i mi fwrw ymlaen fel hyn yn ddiymatal i geisio cyflawni rhywbeth sydd tu hwnt i'm gallu? ... os gwna i unrhyw waith da nawr, wel hap a damwain yn unig fydd hynny."
Gwyddys ei fod yn gweithio ac ail-weithio ei gynfasau nôl yn ei stiwdio i gyflawni ei weledigaeth artistig.
Bu sawl cam i'r project - dechreuais gyda dau ymweliad â'r Amgueddfa. Fe wnes i rai brasluniau gyda phensiliau lliw ar bapur du ac yna archwilio'r gweadau mewn acryligau a chyfrwng gwead trwm. Hefyd tynnais rai ffotograffau agos o'r crawennau paent. Roedd staff yr Amgueddfa'n barod iawn i helpu. Meddyliais ei bod yn briodol gwneud argraff o'r darlun yn syth. Nôl yn y stiwdio cefais y syniad o wneud nifer o fersiynau bach o'r eglwys gadeiriol, a fyddai o'u rhoi gyda'i gilydd yr un maint â'r darlun gwirioneddol. Roeddwn yn gallu chwarae gyda'r rhain, gan adeiladu gweadau a rhoi cynnig ar wahanol gyfuniadau o liwiau; hefyd defnyddiais dechneg monoargraffu a rholer i wneud i'r paentiau ymdoddi. Yna fe wnes i gyfres gyffelyb gyda chapeli Cymreig lleol, dim ond i weld sut roedd pethau'n datblygu o wahanol fannau cychwyn. Yna euthum ati i wneud cyfres o baentiadau mwy o gapel Y Tabernacl yng Nghaergybi. Er na ellir ei gymharu â'r eglwys gadeiriol Gothig mae yna rai nodweddion cyffelyb rhyngddynt - tri drws bwaog, peth addurniadau ar yr wyneb, ffenestr hanner crwn hanner ffordd i fyny'r ffasâd, dau dŵr a'u pinaclau'n ymestyn i fyny i'r nefoedd. Fe wnes i fraslun a dechrau rhai paentiadau in situ, ond gwnaed y rhan fwyaf o'r gwaith yn y stiwdio. Wrth edrych yn ôl, rwy'n sylweddoli nad oedd gennyf gymaint o ddiddordeb mewn dangos gwahanol adegau o'r dydd. Arbrofais â thechnegau Monet ond, yn anochel, llithrais yn ôl i fy ffyrdd fy hun o weithio. Yn arbennig, rwy'n teimlo nad yw'r paent mor drwchus a haenog, ond mae yna lawer o ddefnydd digymell ac ymateb emosiynol. Mae'r project wedi cael effaith gadarnhaol ar fy ngwaith fy hun, gan roi mwy o hyder i mi weithio en plein air ac i werthfawrogi technegau arbrofol.