y broses weithio a’r ymarfer stiwdio: celf newydd o gelf flaenorol
About
AIL WNEUD/AIL-DDYFEISIO RE-TAKE/RE-INVENT
Mae Ail-wneud, Ail-ddyfeisio yn broject arddangos gan grŵp, lle mae 16 o artistiaid yn ymateb i’r casgliad celf yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Mae pob un o'r artistiaid yn gysylltiedig â gogledd Cymru ac wedi bod yn dehongli’r gwaith celf o’u dewis o safbwynt beirniadol yr ymarfer stiwdio cyfredol. Mae hynny’n arwain at syniadau a chysylltiadau newydd, gan greu siwrneiau darganfod diddorol wrth i bob un yn canfod ffyrdd gwahanol o gysylltu â chynnwys ac ystyr. Lansiwyd y project Ail-wneud, Ail-ddyfeisio gan y rhaglen Celf Gain ym Mhrifysgol Bangor. Cynhaliwyd dros gyfnod o ddwy flynedd gan roi amser estynedig i ganolbwyntio ar y broses o greu a thynnu sylw at frasluniau, astudiaethau a llyfrau gwaith, yn ogystal â gweithiau celf gorffenedig. Mae’r project wedi cynnwys ymweld â stiwdios, projectau mewn ysgolion a chyfraniadau at gyfnodolyn grŵp gyda ffotograffau wedi’u comisiynu o’r artistiaid a’r stiwdios, a’r cyfan yn dilyn y broses o greu celf newydd o gelf flaenorol. Gellir gweld Ail-wneud, Ail-ddyfeisio mewn tri lleoliad ar yr un pryd ar draws y rhanbarth, ac mae wedi derbyn cefnogaeth hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
© hawlfraint Steffan Jones Hughes; Marged Pendrell; Noelle Griffiths