top of page

Eleanor Brooks

Mae Brooks wedi byw a gweithio yn Llanfrothen ers nifer o flynyddoedd, cyn hynny bu'n gweithio yn Llundain. Mae ei Mrs Sphinx enwog a'r project Miss diweddar yn dyst o oes yn gweithio ym maes celf fel gwneuthurwr ac addysgwr. Mae ganddi ddawn lluniadu prin ac fel arlunydd mae ymhlith y gorau o'r arlunwyr ffigurol yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf.

 

Eleanor Brooks gwaith efo

Honoré Daumier

“Le Faudeau.”

1850–1860

Yr agwedd arall ar waith Daumier y byddwn yn hapus i fod o dan ei dylanwad yw ei dechneg fodelu. Mae dau blac cerfweddol bach yn y Musée d’Orsay. Mae'r ffigyrau, sef llinell o ffoaduriaid, yn dod allan o'r clai mewn ffordd ryfeddol o organig. Roeddwn i bob amser wedi bwriadu gwneud darn o waith o'r math hwnnw, gan ddilyn ôl ei droed.

Mae ei arddull gerfweddol yn fodern, bron iawn yn Giwbaidd.  Cymharwch y placiau â drysau'r fedyddfa yn Fflorens gan Ghiberti; yno mae'r cefndir yn gerfwedd isel iawn, bron iawn fel llun ar dir gwastad ac mae'r ffigyrau fel doliau bach wedi eu glynu arno. Mae Daumier yn asio'r ffigyrau a'r cefndir, yn wir mae'r ffigyrau'n DOD ALLAN o'r cefndir.  Fel maent yn gwneud yn wir mewn llawer o'i baentiadau. Mewn gwirionedd gallai llawer o'r paentiadau fod wedi eu creu gyda chlai gwlyb, wedi ei daenu a'i lusgo i mewn i ddelwedd. Paentio gyda mwd, paent y dyn tlawd. Paent y dyn cyntefig.

Pan ddechreuais y project hwn meddyliais y byddai enghraifft Daumier yn fy helpu i ganfod gwreiddiau darn o gelfyddyd brotest ynof fi fy hun.  Ond bu pethau'n anos nag y dychmygais.

Dechreuais gynfas mawr yn arddull cartŵn Daumier mewn du a gwyn.  Roedd yna ffigwr brenhinol, heb ryw penodol iddo, yn eistedd ar orsedd ac yn gosod medal ar ffrog morwyn a oedd yn sefyll o'i flaen.  Fy mwriad oedd gwneud collage o amgylch y ddau brif ffigwr hyn yn mynegi rhai o'n herchyllterau cyfoes.  Roedd y bwriad yn un sarcastig ac nid aeth ddim pellach, diolch i'r drefn! 

Yna rhoddais gynnig ar rywbeth roedd Daumier wedi ei wneud ar raddfa fechan ond yn llwyddiannus iawn, sef plac terracotta yn cynrychioli llinell o ffoaduriaid neu ymfudwyr.  Roeddwn yn meddwl y byddai defnyddio'r olchwraig fel ffigwr mam o ffoadures yn gwneud y pwnc yn gyfoes.  Dim ond ei gwisgo mewn gwisg o'r Dwyrain Canol i'w gwneud yn gyfoes.  Ond fedrwn i ddim cael y peth i weithio.  Nid fel darlun o brotest.

 

Ni allaf baentio pethau nad wyf wedi'u gweld. Fe welais y ddynes efo'r bagiau yn codi afal o'r gwter yn y farchnad, a gwelais y ddynes wladaidd o'r Swistir yn cario basged o dail gwlyb bron gymaint â hi ei hun i fyny ffordd fynyddig.  Roedd hynny yn 1938.  Roedd yn dal gafael yng nghynffon asyn roedd ei gŵr yn ei farchogaeth a gwelais wyres anghyfreithlon y ffermwr yn chwarae yn y baw ar iard y fferm ac fe'i hoffais yn fawr.  Roedd hynny hyd yn oed yn gynharach, tua 1933 mae'n fwy na thebyg.  Fe wnaf geisio paentio'r rhain, ond bydd rhaid i fy sioe fod yn frasluniau rhagarweiniol yn bennaf.   Memos fy meddyliau crwydrol fyddant.

 

Tra oeddwn yn dal i bendroni gyda syniadau annelwig, fe gynhyrchais amrywiol weithiau 3-D bychain a staciau o bapur i'w defnyddio mewn collage.  Roedd rhai o'r papurau hyn yn ffotograffau printiedig, a rhai yn eitemau wedi'u llungopïo o wahanol gyfryngau.  Hefyd roedd rhai'n frasluniau a wneuthum yn arddull Daumier.  Fe wnes i osod y rhain ar fwrdd gyda phinnau ac, yn raddol, fe wnaeth siâp yr olchwraig a'i phlentyn ddechrau ymdebygu i siâp pelfis yn fy meddwl.  Roedd hyn mae'n debyg oherwydd cysylltiadau â syniadau eraill, megis rhai a welir gan seicoddadansoddwyr pan maent yn gwneud prawf Rorschach.

 

 Wrth i mi ystyried y ffordd roedd yr olchwraig yn sefyll er mwyn medru cario pwysau trwm iawn heb frifo ei chefn, roeddwn yn meddwl am ei phelfis a'i chlun a dechreuais ystyried y pelfis fel asgwrn benywaidd yn unig.  Wrth gysylltu'r pelfis â chario pwysau a chario plant, deuthum i'w ystyried mewn ffordd wahanol i'r ffordd y byddwn wedi meddwl amdano pe bai mewn cysylltiad â dyn.  I weld pethau'n gliriach fe wnes i fenthyca replica plastig o belfis a gwneud rhai darluniau ohono.  Roeddent yn edrych yn bur dda wedi eu gosod â phinnau wrth ymyl brasluniau'r cymeriadau Daumier ac yn sydyn sylweddolais rywbeth am fath o gelf fodern a oedd ond wedi codi fy ngwrychyn o'r blaen fel i mi fod yn ddall i'w rhagoriaethau.  Yn y gorffennol rwyf wedi cael fy siomi, a fy nghythruddo hyd yn oed, pan wyf wedi mynd i oriel gan ddisgwyl gwledd i'r llygaid ond, yn hytrach, wedi cael dim ond gweithiau aneglur a nodiadau tywyllach hyd yn oed, yn aml fel cyflwyniad i ryw destun pur anniddorol. 

 

Ac felly mae fy mhrofiad newydd wedi fy arwain i newid fy agwedd a'm galluogi o'r diwedd i werthfawrogi gwaith nad oeddwn yn ei ddeall o'r blaen gan bobl rwyf yn eu parchu ac yn hoff ohonynt.  Mae hyn wedi fy nghyfoethogi ac rwy'n ddiolchgar i'r project yma am fy ngorfodi i ganfod ffordd wahanol i'm ffordd arferol o fynegi fy hun ac, wrth wneud hynny, i ddyfnhau fy ngwerthfawrogiad o fy nghyfoedion iau.  Dywedodd George Orwell y dylem ysgrifennu nid yn unig i gael ein deall ond fel na fyddwn byth yn cael ein camddeall.  Roedd ef yn ddemocrat rhagorol ac yn gweld drwy gelwyddau gwleidyddol.  Rwyf wedi ceisio bod yn glir. Mae amwysedd yn annemocrataidd, ac rydym angen diwylliant celf hyderus a democrataidd sy'n cyfathrebu'n glir, sy'n rhoi pleser i'r sawl sy'n edrych a boddhad i'r sawl sy'n gwneud. 

bottom of page