top of page

Gilly Thomas

Mae Thomas wedi arddangos ei gwaith yn helaeth yng Nghymru ac yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae wedi ennill enw da cynyddol ac erbyn hyn mae'n un o artistiaid enwocaf y rhanbarth. Mae ganddi ddiddordeb mewn dehongli'r dychymyg trwy ddefnyddio iaith weledol a gwreiddiol iawn, ac mae dilyniannau enigmatig ond cyfarwydd yn amlwg yn ei gwaith.

 

Gilly Thomas gwaith efo

Karel Appel

Yr Ddinas

1982

Dyma fy nhaith gyntaf i diriogaeth Karel Appel. Mae'r ddynes wedi cael gogls a'r faneg wen y dylai morynion ei gwisgo bob amser. Mae ychydig o ddirgelwch o'i chwmpas felly ni wyddwn ni a yw hi ar berwyl arbennig.

O’r braidd y gellid dweud ei bod yn rhedeg ar ddicter. Gan fy mod i'n gwneud hyn gan fwyaf, hoffwn i gredu ei bod yn cario Ffagl Dicter.

 

Y dewis a’r rheswm

Am wn i y byddai nifer fawr o bobl yn galw 'The City' gan Karel Appel yn blastrad eithaf ofnadwy, yn waith di-chwaeth, dryslyd a rhyfedd.

Roedd yn ymddangos i mi iddo gael ei wneud yn frysiog a'i daflu i olwg y byd. Ond roedd hefyd i'w weld fel pe bai'n gynnyrch ei hunaniaeth. Rwyf yn eithaf eiddigeddus o allu Appel i gloddio i'w hunaniaeth.

Mae'r paentiad yn dweud 'Casewch fi os liciwch chi, dyna ni, cerddwch heibio - beth yw hynny i mi? Ydych chi'n meddwl fy mod i'n hyll? Wel, mi ydw innau hefyd. Ydych chi'n meddwl y gallwch weld trwof i? Wel, peidiwch â sôn!!! - Dw i'n dryloyw.'

Mae'r paentiad hwn yn ewn, ac efallai fod gen i syniad o sut mae menyw Appel yn teimlo; yn llawn dicter, yn noeth, yn ddiamddiffyn ac yn gynddeiriog.

Pam fod Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi prynu'r llun hwn? Efallai bod y ddraig goch fechan wedi chwarae ei rhan, pwy a ŵyr?

Dewisais y llun oherwydd ei faint, ei rym anwaraidd, ei ddiffyg cynildeb, ac efallai oherwydd po fwyaf yr ydw i'n cynhyrchu peintiadau gofalus, rheoledig, po fwyaf yr ydw i'n edmygu mynegiant amrwd gwyllt o'r fath.

Mae Appel yn portreadu'r ddinas. Rwyf innau yn dod o'r ddinas. Rwy'n hoffi gwaith dyn. Gan i mi droi’n wladaidd trwy wahanol amgylchiadau a chamgymeriadau teimlaf yn llawn cyffro ac wedi fy nieithrio pan af i ymweld â Llundain. Mae dinas Appel yn consurio awgrym o ymddieithriwch, delweddaeth ddryslyd sy'n gyfarwydd i mi. O edrych ar y paentiad am y tro cyntaf doedd gen i ddim syniad beth i'w wneud ohono.

Bellach, pan wyf yn Llundain, caf deimlad rhyfedd ac eithaf annifyr fy mod i'n 'hunan wylio', ac yn hollol ymwybodol o'r ddinas nad oes modd ei rheoli o'm cwmpas. Wn i ddim beth i'w wneud o'r ddinas go-iawn hon ‘chwaith. Y gwir yw, mae'n debyg, fod a wnelo'r ddinas â phopeth.

Mae’r cyfan yn annealladwy i fenyw Appel. Ac i finnau hefyd. Mae gennym rywbeth yn gyffredin.

Mae hi, a finnau, yn canolbwyntio ar beidio â disgyn dros ymyl y byd - hyd nes i hynny ddigwydd, o anghenraid, os nad yn ofynnol.

Proses a Gwerthuso


A oes unrhyw un yn enaid syml? Ni waeth am hynny, mae fy mhroses i yn syml, ac nid yw wedi newid llawer, er efallai y dylid ei newid.

Yn syml, rydw i'n mynd ati i dynnu llun oddi ar fy nghof mewn llyfrau braslunio, ac yn ysgrifennu llawer iawn o eiriau. Yn bennaf, mae gen i ddiddordeb yn y syniadau sydd wedi ysgogi'r lluniau hyn. Yna mi fydda i'n dewis y rhai yr ydw i'n eu hoffi fwyaf ac yn gweithio arnyn nhw mewn maint mwy, ac yn ystod y broses honno gall y lluniau newid yn sylweddol.

Fe ddefnyddiais y ffaith fod paentiad Karel Appel yn cynnwys delweddaeth sy'n dod i'r wyneb yn aml yn fy ngwaith i - menyw ar ei phen ei hun, anifeiliaid doeth, amwyseddau a dinistr. Mae rhywfaint o'r ddelweddaeth sydd wedi bod yn cyniwair yn fy mhen wedi magu arwyddocâd gwahanol wrth i ddehongliadau ddatblygu gwahanol arlliwiau o dan y cwbl, er na wyddwn i bod yr arlliwiau hynny yno. Roedd eu cyfoeth gwallgof a thrallodus wedi fy synnu.

Mae gen i ryw ddirgel amheuaeth, sydd yn bendant yn amherthnasol, efallai nad oedd Karel Appel yn gwybod ‘chwaith.

Felly fe fanteisiais i ar y ddelweddaeth, ond nid ar y raddfa, i ddechrau, er i mi lawn fwriadu gwneud hynny yn y dyddiau cynnar. Erbyn diwedd y prosiect roeddwn wedi dechrau llwyddo i wneud hynny, wrth i mi gychwyn ar gyrch llawn trallod i fy ailddyfeisio fy hun. Does dim modd i mi werthuso hyn gan nad ydyw yn ddim ond potensial.

Mae wedi bod yn hynod ddiddorol, ac rydw i wedi mwynhau'r gwaith meddwl y mae wedi ei ysgogi. Dywedodd rhywun fod 'celf yn esgor ar gelf', ac efallai fod gwirionedd yn hynny ond yn sicr rydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri. Nid fy mod i'n meddwl fod Karel Appel o reidrwydd yn gawr.

Mae'r gwaith ysgrifennu a chofnodi wedi fy synnu oherwydd natur ddadlennol y gwaith, i'r graddau fy mod bellach yn teimlo'n fwy gwyliadwrus falch o'r blog nac o'r gwaith ei hun. Credaf fod a wnelo hyn â faint o amwysedd sydd ynddo. Dw i'n hoff o amwysedd.

Mae penderfyniad yn beth prin; Dwi ddim yn siŵr a ydy hynny'n bosibl i artist. Yn y cyfamser mae wastad rhyw fath o ddilema . Beth arall sy'n bosibl wrth edrych trwy ficrosgop ar bethau sy'n rhy fach, neu wrth edrych ar y cosmos pan na allwn ei weld o gwbl?

bottom of page