top of page

Noel McCready

Efallai mai McCready yw'r un o'r artistiaid lleiaf adnabyddus yn y project hwn gan nad yw wedi arddangos yng ngogledd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'n arlunydd tirluniau sy'n enwi  Matisse, Vuillard a Gauguin ymhlith y rhai sydd wedi dylanwadu arno. Cafodd hyfforddiant mewn celf gain yn Lerpwl a thrwy gydol ei yrfa mae wedi rhoi mwy o flaenoriaeth i gyfnodau o ddysgu'n achlysurol yn hytrach nag ymarfer artistig. Mae'r project hwn yn rhoi cyfle hirddisgwyliedig i'r meddyliwr deallus mewnweledol a gweledol hwn arddangos ei waith.

 

Noel McCready gwaith efo

Michael Andrews

Cariad

1956

Gan edrych ar un o'r paentiadau Ailddyfeisio a wneuthum yn yr un ffordd (dewiswn yr un melyn) byddai'n mynd... lliwiau cryf, sydd yn cydweddu ar y cyfan ond drwyddo draw mae ardaloedd o liwiau sydd hefyd yn ategu'r effaith; paent tenau wedi ei sgrwbio ac impasto wedi ei baentio'n fras iawn. Defnyddio llinellau, tonau a lliwiau sy'n gwrthgyferbynnu, i wahanu ac i wahaniaethu rhwng y delweddau. Ardaloedd mawr heb ddim manylion; arsylwi agos a diffiniedig; defnyddio persbectif confensiynol, gydag afluniadau; marciau mawr a mân; defnyddio patrwm; paent olew, a phaent acrylig o dano.  Ar y cyfan nid yw'r paent olew wedi ei deneuo ond ceir haenau tenau o liw tryloyw mewn mannau. Y peth olaf ond yr unig un pwysig yw ei fod yn dangos cariadon ar wely.

 O gael gwahoddiad i gynhyrchu gweithiau Trawsgrifio cefais gyfle i archwilio sut y mae peintwyr eraill wedi defnyddio'r ffurf ddynol... mewn amryw leoliadau... fel pwnc ar gyfer eu gwaith, yn farn ar y byd.

 

Felly fe es i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i chwilio am baentiadau o bobl, o dan do, neu mewn tirlun.  Peintwyr megis Gaugin, Villard, Denis a Manet oedd gen i mewn golwg. Mae i'w paentiadau nodweddion sy'n fy niddori... rhannau o liwiau fflat, rhannau addurnedig, lliwiau barddonol cryf ond afreal, persbectif sydd bron yn gonfensiynol ond wedi ei wastatáu. Mae'r cyfan wedi cael eu dylanwadu gan brintiadau Japaneaidd.  Er gwaetha’r ffaith bod cynifer o baentiadau gwych yng Nghaerdydd, doedd dim a welais o unrhyw ddiddordeb i mi ar gyfer trawsgrifio.  Felly es am adref heb benderfynu.

 

Fodd bynnag, dros yr ychydig ddyddiau nesaf bûm yn meddwl mwy a mwy am "Lovers" a baentiwyd yn 1956 gan Michael Andrews, a oedd yn beintiwr nodedig o Brydain yn ystod yr 1960au a'r 70au. Hwn yw un o'r lluniau lleiaf yng Nghaerdydd (6 modfedd x 8 modfedd) a sylweddolais fod iddo nifer o'r elfennau yr oeddwn yn chwilio amdanynt. Dau ffigwr mewn gofod enigmatig, ffynhonnell goleuni annelwig a gwrthrych... cariadon a chariad... sydd o natur gyfanfydol ac yn agored i sawl dehongliad. Felly trwy addasu'r paentiad hwn fel rhan greiddiol fy mhrosiect gallwn weithio o'i gwmpas ar ffurf amrywiadau ar y thema. Cedwais gyfansoddiad cyffredinol gwreiddiol Andrews ym mhob un o'm paentiadau namyn un.

 

Mae fy arddull paentio sefydledig yn gynrychioliadol ac yn seiliedig ar ddarlunio arsylwadol. Byddaf yn gwneud llawer o fywluniadu ac rwyf o hir ymarfer yn beintiwr tirluniau. I mi mae neilltuolrwydd y byd go-iawn yn aml yn fwy annirnadwy na chyffredinolrwydd dyfeisiadau felly mae'r rhan fwyaf o fy mhaentiadau i yn dechrau wrth arsylwi ond wrth i'r broses baentio ddechrau daw yn gyfuniad o realaeth a dychymyg. Byddaf yn gweithio trwy baratoad manwl. Mae hyn yn golygu bod y paentio yn cael ei gynllunio mewn nifer o sgetshis, brasluniau, lluniau wedi eu haddasu a'u datblygu, cyn rhoi unrhyw farciau ar gynfas. O ran dewis dyfrlliw neu olew rwyf fel arfer yn gwneud fersiwn acrylig maint llawn y byddaf yn gweithio arno ac yn ei ddatblygu trwy sawl cam, nes i mi deimlo'n hapus gyda'r cynnwys a'r cyfansoddiad cyffredinol.  Yna mae'r ddelwedd yn cael ei throsglwyddo i'r cynfas yn defnyddio grid sgwarog, a gwneir blocio cychwynnol y ddelwedd gydag acrylig fel islun.  Yna paent olew.

 

Ar gyfer y prosiect hwn rwyf wedi gweithio ar chwe phaentiad mawr a chwe phaentiad llai, (mae gofod wal yn brin yn y ddwy oriel, felly efallai na fydd rhai ohonynt yn cael eu harddangos). Oherwydd bod cynifer o bosibiliadau rwyf wedi gwneud ymchwil ynglÅ·n â'r pwnc ond nid wyf wedi dadansoddi na gwneud ymchwil hanesyddol ynglÅ·n â Michael Andrews na'i baentiadau.  Yn lle hynny rwyf wedi darllen, dwyn i gof, gwrando, gwylio ac edrych ar baentiadau, ffilmiau, theatr, barddoniaeth, cerddoriaeth a chaneuon... ynglÅ·n â chariadon a chariad. Wn i ddim faint y mae hyn wedi effeithio ar y paentiadau. Mae’n bwnc anodd iawn i'w baentio. Mae'n amlwg wrth ddarllen barddoniaeth, wrth wrando ar ganeuon ac ati nad yw gwir gariad erioed wedi bod heb ei drafferthion... yn aml mae tro yn y gynffon, a diwedd anhapus. Felly nid wyf wedi ceisio cyfeirio'n uniongyrchol at gynildeb emosiwn yn y paentiadau. I mi mae paent yn gyfrwng amhriodol ar gyfer adrodd straeon er bod naratif wastad yn bosibl, ond mae'n rhaid gadael y dehongli, yn ôl yr arfer, i'r sawl sy’n edrych ar y gwaith.

 

Fodd bynnag, oherwydd y myrdd o eiriau a cherddoriaeth a delweddau sydd wedi bod yn troelli yn fy mhen, er mawr bleser a boddhad i mi, rydw i wedi cael fy nenu (yn addas ddigon) i roi enwau i'r paentiadau sydd yn dod o gerddi, caneuon ac ati. Dydyn nhw ddim yn benodol i ddarnau penodol ac maen nhw'n gyfnewidiadwy ac mor fyr nes nad ydyn nhw'n hawdd eu hadnabod. Does dim angen gwybod o ble daw'r teitl na'i adnabod, er mwyn ymgysylltu â'r paentiad.  Ond... oherwydd gofyn i artistiaid y prosiect hwn esbonio cymaint â phosibl am y broses greadigol, rwyf wedi rhoi ffynhonnell y teitlau ar y blog, ac yn fy achos i, yn fy nyddlyfr.  

bottom of page