top of page

Joanna Evans

Ganwyd Evans yn Llanberis ac mae wedi byw yn yr ardal o amgylch y pentref drwy gydol ei gyrfa. Astudiodd yn Lerpwl fel myfyriwr hÅ·n, ac erbyn hyn mae’n gweithio gyda'r tirlun gan wneud lluniadau, paentiadau a llyfrau gwaith llawn mynegiant. Mae Evans hefyd yn gweithio gyda'r ffigur ac mae'r cyfle i ymddiddori yn y casgliad yn yr Amgueddfa Genedlaethol wedi rhoi rôl newydd a heriol i'r artist sydd ers nifer o flynyddoedd wedi dysgu'r cysyniad o drawsgrifio.

 

Joanna Evans gwaith efo

Paolo Porpora.

‘Still Life’ Gyda’r Neidr Brogaod A Tortoisecrwban  

Olew ar ganfas, 52.3 x 95.2 cm 

Deuthum o hyd i lun o benglog ci, gwneud monobrint ohono, a dod i sylweddoli y gallai strwythur cŵn a nadredd gynnig testunau diddorol.  Yn enwedig gan fy mod i wedi defnyddio Perspex tenau (asetad) ar gyfer y monobrintiau, roedd y rhai oedd yn dangos delweddau tebyg i ysgerbydau yn fy atgoffa braidd o luniau pelydr x. Wrth weld hyn cefais fy atgoffa am waith Julian Schnabel - ar ôl darganfod hen belydrau x hynafol yn Ffrainc cafodd ei ysbrydoli i wneud paentiadau ohonynt. Cawsant eu harddangos yn Oriel Gagosian, a bûm yn eu harchwilio ar-lein.

 

Deuthum i sylweddoli bod y llun yn bell o fod yn 'fywyd llonydd' fel mae'r teitl yn awgrymu. Yn hytrach gallai'r paentiad hwn fod yn ‘memento mori’  (ystyr y geiriau Lladin  yw ‘cofiwch fod yn rhaid i chi farw’). I ddechrau roeddwn yn gofyn i mi fy hun sut roedd Porpora wedi gwneud yr ymlusgiaid yn ei baentiad mor fywiog a symudol - go brin ei fod wedi defnyddio tacsidermydd. Yna, trwy hap a damwain, deuthum ar draws gwaith oedd bron yn union yr un fath o ran cyfansoddiad a thestun, i waith Porpora fel prin y gallwn i gredu iddo gael ei baentio gan arlunydd arall - Iseldirwr a'r enw annhebygol Otto Marseus van Shriek!

Fe ddewisais i'r Porpora'n reddfol - efallai bod hynny rywbeth i wneud â'r ffaith fy mod wedi bod yn gwneud lluniau yn Amgueddfa Hanes Naturiol Prifysgol Bangor y gaeaf blaenorol lle gwirionais ar wneud lluniau o anifeiliaid, adar ac ymlusgiaid mewn cyfrwng-cymysg. Roeddwn yn tynnu'r lluniau'n gyflym ac yn fynegiannol er mwyn ceisio gwneud i'r anifeiliaid ymddangos yn 'fyw' eto.

 

Yn yr un modd, rwyf wedi tynnu lluniau'r ymlusgiaid, planhigion a rhai cŵn iacháu (o'r casgliad Archeolegol). Rwyf wedi rhoi naws ychydig yn 'ddieflig' i rai o'r rhain. Ynghyd â hyn, ar wahân i'r ymchwil, rwyf yn profi bod rhyw naws sinistr i'r paentiad Porpora (er ei fod, ar yr olwg gyntaf, yn edrych yn ddigon prydferth) - mae'r planhigion, y ffwngws a'r ymlusgiaid i gyd yn rhai gwenwynig.

 

Gwnaed fy mrasluniau cyfrwng-cymysg mewn monotonau ochr yn ochr â'r ymchwil, fel ymchwiliad neu ddadansoddiad o'r Porpora. Fel y soniais eisoes, roeddwn wedi fy nghyfareddu gan y ffigurynnau bychain o gwch iacháu y daethpwyd o hyd iddynt yn Llys Awel, beddrod Rhufeinig ger Abergele, Conwy.

 

Wrth i'm gwaith project fynd rhagddo roedd y thema iacháu/gwenwyno'n codi. Wedyn, oherwydd bod fy niweddar dad yng nghyfraith, John R. Evans, yn casglu planhigion gwyllt gyda'i blant ar y fferm, Pant y Buarth, er mwyn creu meddyginiaethau ac elïoedd i drin anifeiliaid a phobl, penderfynais ymchwilio i'r planhigion oedd yn tyfu ar dir ein fferm, ac ymchwilio i'w nodweddion - iachaol neu wenwynig?

 

Y prosesau rwyf wedi eu defnyddio drwy gydol fy mhroject yw - tynnu lluniau mewn sialc, tynnu lluniau â brwsh a monobrintio. Y rheswm am hyn yw am fy mod yn dyheu am rwyddineb a mynegiadaeth yn fy ngwaith a, dros y blynyddoedd, mae'r dulliau hyn wedi gweithio imi. Rwyf wedi adeiladu repertoire o wneud marciau gan ddefnyddio cyfryngau megis inc, sialc, dŵr, pastels/ffyn olew, ac rwy'n mwynhau arbrofi gyda phapur o wahanol drwch.

 

Ers dechrau'r project rwyf wedi gwneud monobrintiau bychain, sydd nawr wedi datblygu i fod yn ddarnau mynegiadol mawr, yn debyg i sgroliau, ar bapur Mulberry, gan ddefnyddio darnau Perspex mawr fel platiau argraffu. Rwyf wedi defnyddio inciau printio olew a dŵr, ond tua'r diwedd rwyf yn defnyddio dim ond inciau dŵr mewn pigmentau pridd.

Pynciau'r printiadau hyn yw cymysgedd o gŵn iacháu, planhigion ac ymlusgiaid (nadroedd ac eraill).

 

Mae gwneud y monobrintiadau canolig a mawr wedi fy ngorfodi i feddwl mwy am y cyfansoddiad, er bod hynny mewn modd trwsgl ar adegau.  Beth rwy'n ei olygu gan hyn yw bod fy nghaban yn cynhesu pan fo'r haul yn boeth, a bod yr inc argraffu ar y perspex yn tueddu i sychu'n ddychrynllyd o sydyn, felly, does dim amser i feddwl - dim ond ceisio cael y plât cyfan yn barod i'w argraffu. Yn rhannol oherwydd hyn, o fy repertoire o astudiaethau o flodau gwylltion, rwyf wedi dewis y rhai mwy haniaethol eu siâp megis cwcwll y mynach, banadl, clychau'r gog wedi mynd i had (maent yn olygfa ryfeddol), a hefyd dail y gron a bysedd y cŵn, ac wrth gwrs, tafod y ci.

 

Wedyn, gan fy mod yn argraffu heb wasg, gan ddefnyddio baren neu ddim ond fy nwylo weithiau, mae hynny weithiau'n creu anwastadrwydd.  Fodd bynnag, gallaf droi hyn yn fantais imi yn aml, gan fy mod wastad wedi hoffi marciau damweiniol, megis blotiau a strempiau yn fy ngwaith, ac ar adegau gall rhain danio'r dychymyg gan eu bod yn barod i gael eu defnyddio.

 

Rhywun arall a fu'n gyfrifol am annog fy niddordeb mewn blodau a rhedyn gwyllt oedd fy nhad, Joe Gianelli, a oedd yn fotanegydd amatur; dysgodd eu henwau i gyd i mi, ac enwau llawer o'r tegeirianau gwyllt oedd yn tyfu mewn rhan gorslyd o'n 'gardd' fawr ni flynyddoedd yn ôl. Y rhai rydw i'n eu cofio yw tegeirian brych y rhos, tegeirian mannog y rhod a thegeirian bera.

 

Mae cymryd rhan yn y project wedi fy ngalluogi i greu gweithiau nad oeddwn i wedi credu eu bod yn bosibl. Roeddwn i wedi ymhél â monobrintio bob yn awr ac yn y man dros y blynyddoedd, ond dim byd mor uchelgeisiol â hyn. Mae wedi rhoi un cyfle i arbrofi o ddifri â gwahanol gyfryngau, ac ynghyd â llwyth o waith ymchwil, mae wedi rhoi dyfnder sylweddol i'r gwaith. Hefyd, mae cymryd rhan yn y project wedi rhoi cyfle imi fod yn eithaf hunanfaldodus wrth ymweld â rhai gweithgareddau o'm plentyndod - casglu blodau gwylltion, edrych i weld beth ydynt a chofnodi eu henwau yn Gymraeg a Saesneg - mae'r un blodau'n tyfu ar Bant y Buarth ag oedd yn tyfu o amgylch llwybr Cwellyn a'r corsydd a'r mynyddoedd o gwmpas. Deffrwyd atgofion o'r ysgol gynradd yn Rhyd Ddu hefyd, lle byddai Mrs Evans, ein hathrawes, yn mynd â ni ar deithiau natur, a phan fydden ni'n cyrraedd yn ôl yn yr ysgol byddem yn tynnu lluniau ac yn ysgrifennu am y planhigion a'r creaduriaid a welsom yn ein Llyfr Natur. Rwy'n teimlo bod gwneud yr holl waith - y lluniau â brwsh a'r monobrintiadau wedi gwella fy sgiliau a fy hyder, a phwy a ŵyr beth allaf i ei greu yn y dyfodol?

bottom of page