top of page

Iwan Lewis

Ar ôl astudio yn y Coleg Celf Brenhinol, mae Lewis wedi dychwelyd erbyn hyn i ogledd Cymru ac Ynys Môn ac yn parhau i ymarfer paentio cyfoes gan arddangos yn eang yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei ddelweddau a'r hyn sy'n dylanwadu arno yn eclectig ac yn parhau i fod yn uniongyrchol a ffigurol. Mae ei ddewis o'r casgliad Cenedlaethol i'r project wedi arwain at gyfres archwiliadol a chynhyrchiol.

 

 

Iwan Lewis gwaith efo

David Jones

Elifantt

1928 

Her mynd i'r afael â'r eliffant yn yr ystafell.

 

Mae tarddiad y lliw melyn Indiaidd yn chwedlonol. Mae llawer yn credu bod y lliw'n dod yn wreiddiol o wrin eliffantod a byfflos dŵr oedd wedi cael eu gorfodi i fwyta dail mango.  O ganlyniad i'r broses hon credir bod yr anifail yn cael ei wenwyno'n araf gan fod cyfansoddiad y dail yn debyg i gyfansoddiad eiddew gwenwynig. Ond nid oes dim tystiolaeth gadarn fod hyn wedi digwydd. Mae meddwl am chwedl o'r fath yn caniatáu i dirlun newydd ymffurfio. Trwy roi'r rhyddid hwn i mi fy hun dylwn greu hylifedd o'i gyferbynnu â chreu astudiaethau o bortreadau Jones.

Dewisais weithio o'r darlun 'Elephant' gan David Jones.  Cefais fy nhynnu at y lliwiau pinc gwan a'r amlinellau tywyll amhendant sy'n amlygu'r eliffant ac roedd yn ymddangos yn ddarlun cymharol agored, er ei fod yn codi rhai cwestiynau'n ymwneud â chadwraeth neu anifeiliaid mewn caethiwed. Roedd fy ngwybodaeth o David Jones yn gyfyngedig ac felly roedd yn ymddangos fel pe bai'n cynnig llechen lân ar y dechrau.

 

Wrth ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru bûm yn ymdroi gyda llawer o'r delweddau cyfarwydd a oedd ar un adeg wedi porthi fy nghywreinrwydd tuag at arlunio.  Fel myfyriwr celf yng Nghaerdydd roeddwn yn defnyddio'r amgueddfa'n aml fel rhyw fath o glwb hen fechgyn.  Roedd yn rhywle lle gallwn smalio bod yn rhyw fath o ffug gonnoisseur a chefnu am dro ar bwnc llosg cyffredin y dydd, sef "ydi paentio'n farw?" 

 

Ers hynny rwyf wedi symud oddi wrth y teyrngarwch masocistaidd hwn tuag at baentio.   Fel plentyn doeddwn i byth yn llwyddo i ddilyn un tîm pêl-droed; yn hytrach, roeddwn bob amser yn cefnogi'r un oedd yn ffefryn i ennill.  Fodd bynnag, er dweud hyn mae paentio wedi parhau'n bwysig i mi, ond bellach mae nid yn gymaint yn ymwneud â theyrngarwch ond yn hytrach drafodaeth agored gyda chelf, er fy mod yn dal i ddibynnu ar ymwybod fy nwylo o atgof y gorffennol.  Rwyf nawr yn gweld fy mherthynas â phaentio'n un llawer mwy diplomatig. 

 

Roeddwn wedi ymweld â'r amgueddfa lawer gwaith fel dyn ifanc, ond yn ystod yr ymweliad diweddar hwn nid oeddwn yn teimlo unrhyw ymateb cryf i unrhyw rai o'r gweithiau o'm cwmpas.  Gan fethu â hoelio fy sylw ar unrhyw ddelwedd neilltuol, roeddwn yn teimlo fel ymwelydd yn cael ei arwain o amgylch rhyw adfeilion hynafol amwys.  Oherwydd fy mod wedi rhyw chwarae'n ddiweddar gyda Swrealaeth roeddwn wedi meddwl canolbwyntio ar ddarn gan Rene Magritte; fodd bynnag, ni lwyddais rywsut i agosáu at y darn a symudais i chwilio am ysbrydoliaeth arall.   Yn hytrach, cefais fy nghroesawu â breichiau agored gan eliffant, gan wirioni arno fel plentyn gyda chath fach.  Roedd y darn yn ymddangos yn barod iawn i godi sgwrs, gyda'r arwyneb ysgafn yn ymddangos yn llawer llai swta nag un Magritte.  Yn hytrach, roedd y gwrthrych bychan yma a oedd yn pwyso yn erbyn y wal yn gofyn cwestiynau i mi fel "pam wyt ti mor drwm ar y paent?  Bydd yn ysgafnach dy gyffyrddiad, yn fwy tebyg i mi." Yn wahanol i'm gwaith fy hun, roedd y paent ar arwyneb y darn hwn yn gymharol denau, nid yn haenau a lympiau fel fy narluniau i. Ysgogodd ynof angen i newid fy ffordd fy hun o ymdrin â'r cynfas.  Gyda hyn mewn golwg pan ddychwelais i fy stiwdio euthum ati i efelychu 'Elephant' gan David Jones ond, er fy ngwaethaf, roedd fy llaw yn mynnu cael ei ffordd ei hun ac unwaith eto roedd cacen drwchus ar y cynfas. 

 

Cefais fy hun yn syllu ar y marc a oedd yn ffurfio'r geg yn eliffant Jones, gan ei wylio'n symud ond yn methu â chlywed dim.  Gan sylweddoli mai ychydig oedd gennym yn gyffredin, ac yn ddicllon tuag at y pethau a oedd yn gyffredin rhyngom, roedd y darn yn awr yn tynnu fy null gweithredu fy nhun yn dipiau, gan fy nhaflu i'r llawr fel rhywun gyda gwregys du mewn jiwdo.  Roedd y gath fach hon wedi troi yn rhywbeth llawer mwy gwyllt ac ymosodol.  Mewn cyfyngder, dechreuais chwilio am arweiniad mewn mannau eraill; gan gwglo darluniau llonydd o ffilmiau Alejandro Jodorowsky a mynd ar ôl tipyn o Pieter Bruegel yr Hynaf.  Er hynny, daliai'r eliffant i ddod yn ôl fel gwestai nas gwahoddwyd i barti.  Meddyliais ei fod wedi cael ei gaethiwo'n rhy hir yn sw David Jones efallai, felly ceisiais ei ollwng yn rhydd drwy bortreadu'r creadur yn ei gynefin naturiol. Fodd bynnag, ni wnaeth hynny ddatrys pethau chwaith.  Po galetaf y ceisiais ddianc oddi wrth yr anifail, mwya'n byd roedd yn ymddangos - yn fraich wedi ei throi'n drwnc, yn dafarn wedi'i throi'n lloc iddo yn y sw, ac felly ymlaen.  Holais fy hun pam oeddwn wedi cael fy nhynnu at y darn yn y lle cyntaf - ai oherwydd bod y creadur egsotig hwn yn llenwi angen yn yr isymwybod i gael y llall?  A oedd hyn i'w briodoli i'm cyflwr ansefydlog fy hun? 

 

Unwaith y gwnes i ildio a chaniatáu i'r anifail fynd a dod fel y dymunai daeth y broses yn llawer boddhaus.  Dysgais gadw'r eliffant hyd braich - byddwn yn rhoi tipyn o fwyd iddo yn yr ardd a'i wylio'n ddiogel o'r gegin.  Dysgais yn gyflym nad oedd ymateb ymosodol i'm dull gweithredu fy hun yn ymarferol. Er fy mod yn genfigennus o ddarbodusrwydd Jones, roedd yn rhaid i mi ganiatáu ffordd fwy cyfarwydd i mi fy hun o roi paent ar gynfas.  Yn fy narnau fy hun cedwais olwg ar ei ddull ef o lunio llinellau/marciau, ond ceisiais hefyd ganiatáu i'm dull mwy cyfarwydd fy hun o drin paent gyd-fodoli neu ddatblygu drwy'r cyfeillgarwch newydd a rhyfedd yma.   

bottom of page