y broses weithio a’r ymarfer stiwdio: celf newydd o gelf flaenorol
Marged Pendrell
Mae Pendrell yn un o gerflunwyr blaenllaw gogledd Cymru ac wedi arddangos yn eang yn Oriel Davies, Oriel Ynys Môn ac ym Mostyn yn ddiweddar. Mae cerdded a chasglu yn ganolog i'w hymarfer. Mae ei dull o ail-ddehongli deunydd a ffurf yn cyfuno ymarferion celf cysyniadol a minimol ac ar yr un pryd yn cadw cysylltiad cryf â ffurf ffisegol y tir. Mae’r project yn golygu ailgysylltu gyda ffigur dylanwadol gan hwyluso dehongliadau newydd am leoedd.
Marged Pendrell gwaith efo
Cylch Blaenau Ffestiniog
2011
Daeth y daith gerdded arbennig hon (taith 11 – Cylch Crimea) yn un oedd yn canolbwyntio ar amser a gofod, gyda dŵr a golau'n brif nodweddion. Roedd yr adlewyrchiad eglur yn y lliaws o lynnoedd yn rhoi mwy o ddyfnder ffisegol i'r dirwedd, roedd eu hadlewyrchiadau'n disodli cadernid y dirwedd ac yn gwneud y daith yn dameidiog, gan gynnig naratif amgen wrth i mi symud trwy'r dirwedd.
Mae'r llyfrau bychan a luniwyd gennyf bob tro ar ôl i mi fynd am dro yn bodoli fel dull mwy cysyniadol neu farddonol o gofnodi'r profiad. Mae peth o'r testun yn ddisgrifiadol ond rydw i hefyd yn ymchwilio i ddulliau o gysylltu â'r dirwedd mewn ffordd ddyfnach trwy gyfrwng geiriau. Byddaf yn edrych eto ar farddoniaeth Haiku Basho a 'His Narrow Road to the Deep North'.
Y gwaith a ddewisais ar gyfer y project oedd 'Blaenau Ffestiniog Circle' Richard Long. Fe'i gwelais yn cael ei arddangos am y tro cyntaf yn sioe gyntaf yr orielau newydd cyfoes o fewn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 2011.
I ddechrau fe'm denwyd ato am ei fod yn uniaethu â thirwedd, a thirwedd yr ardal lle rwyf yn byw yn benodol. Yr ymateb i 'le' yn y gwaith hwn oedd tref chwarelyddol Blaenau Ffestiniog. Mae'r gwaith yn gysyniadol ac yn reddfol ac yn ymwneud â'r broses o gerdded a chasglu, ac mae'r elfennau hynny yn ganolog i fy ngwaith i fy hun. Mae'r cylch yn ffurf archdeipaidd yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Y cysyniad bod 'lle' yn strwythur i brofiad neu broses oedd beth ddenodd fi'n benodol at y llyfr hwn. Roedd llechi fel deunydd yn llwybr arall yr oeddwn i'n awyddus i'w archwilio, a'u hanes o fewn y dref a'u gwreiddiau yn naeareg y tir.
Cyfuno'r cysyniadol a'r greddfol oedd beth oeddwn i ynghlwm ag ef i ddechrau. Dechreuais fel y dechreuodd Richard Long, drwy wneud cylchoedd ar fap OS. Seiliais fy nghylchoedd ar y tir rhwng fy stiwdio yn Rhyd a Blaenau Ffestiniog. Wedyn cerddais o fewn y cylch, ac mor agos â phosibl ato. Y bwriad oedd cadw'r broses mor agored a greddfol â phosibl, gan beidio cymryd unrhyw syniadau rhagdybiedig gyda mi. Roeddwn yn cael fy nenu i gofnodi pob taith unigol wrth iddi ddigwydd fel llyfr consertina bychan cyflawn ac ar wahân. Gweithiais gymaint â phosibl ar y rhain o fewn y lleoliad. Ar rai teithiau cerdded, cyfunais ffotograffiaeth, ac yn ddiweddarach ymgorfforais hynny yn fy nyddlyfr gwaith, rhywbeth a gedwais drwy gydol y broses. Esblygodd y teithiau cerdded hyn nes dod i uchafbwynt mewn un daith gerdded hir ar 5 diwrnod gwahanol ar hyd ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, y cylch mwyaf ar y map. Daeth hyn yn gyfres o deithiau cerdded o'r enw 'Terfyn y Twll'.
Roeddwn yn bwriadu cynnwys elfen o gydweithio yn y project hwn a rhoddais wahoddiad i unigolion oedd â diddordeb i ddod i fy stiwdio yn gynnar yn y project. Rhennais fy mhroses gyda nhw a chytunwyd y byddai pawb yn gwneud taith gerdded mewn cylch yn yr ardal. Caiff rhain eu cynnwys fel "Casgliad o Deithiau Cerdded Cylch" ar ffurf llyfr.
Daeth fy ymateb i i'r deunydd yn elfen bwysig o'r rhan fwyaf o'r teithiau cerdded ond doeddwn i ddim yn cael fy nenu i weithio arnynt o fewn y dirwedd, fel y gwnaeth Long. Cesglais y deunydd hyn ac ar ôl dychwelyd i'r stiwdio, gweithiais gyda'r rhain o fewn siâp minimalistig cerfluniol o gylch, fel a ddefnyddiwyd yn y gwaith gwreiddiol. Roedd y broses o greu'r cylchoedd cerfluniol hyn yn dal yn un reddfol, gyda dim ond y deunydd, y gwrthrych neu'r cysyniad yn cael dylanwad arni mewn perthynas â'r daith gerdded.
Wrth fyfyrio ar y gwaith ar gyfer y project hwn, sylweddolais mor bellgyrhaeddol ydyw a faint mwy sy'n aros i gael ei ddatblygu. Mae'r holl fynegiadau amrywiol yn rhan o'r broses archwilio gyfan ac felly, yn symud ymlaen o deithiau cerdded unigol Richard Long. Y bwriad oedd cadw'r teithiau cerdded mor reddfol â phosibl, a llwyddais i wneud hynny, ond roeddwn yn cael fy nenu at ymchwil, yn benodol olion ymyriadau dyn ar y tir. Cyfrannodd hyn yn ei dro at ddylanwadu ar fy mhenderfyniadau ar y gyfres o gylchoedd, ac arweiniodd at ail-ddehongli ffurf a deunydd. Mae gan y rhan fwyaf o'r cylchoedd yn y gyfres elfen naratif mewn perthynas â'r tir lle daethpwyd o hyd iddynt.
Daeth 'Terfyn y Twll', y gyfres o deithiau cerdded ar hyd ffin y Parc Cenedlaethol ag elfen wleidyddol i'r gwaith, a newidiodd fwriad gwreiddiol y daith o gerdded heb gysyniad rhagdybiedig, ond agorodd lwybrau newydd yn fy ffordd o weithio.
Mae proses gyffredinol y project hwn wedi bod yn un sy'n esblygu, gyda phob agwedd ar y gwaith yr un mor bwysig â'i gilydd. Gwnes benderfyniad ymwybodol i beidio ag anelu at ddarn gorffenedig i'w arddangos, ond parhau i ganolbwyntio ar fwriad gwreiddiol y project, sef cyfathrebu'r broses o weithio. Mae'r corff o waith yn llawer mwy nag oeddwn i wedi ei fwriadu ond mae fy mhroses weithio yn aml yn dod i'r wyneb mewn cyfres ac felly mewn gosodiad yw'r lle gorau i'w gweld. Mae yna elfennau o'r ymarfer sydd wedi annog dulliau newydd wedi eu plethu â thir cyfarwydd. Mae syniadau'n parhau i ddatblygu wrth i mi barhau i gerdded.