y broses weithio a’r ymarfer stiwdio: celf newydd o gelf flaenorol
John Renshaw
Mae Renshaw yn Athro Emeritws mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Gaer. Mae'n baentiwr teilwng iawn ac yn arddangos yn rheolaidd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig mewn arddangosfeydd a chystadlaethau. Fel addysgwr mae Renshaw wedi cyhoeddi ymchwil yn arbennig am yr ymarfer o luniadu ac yn dod â phrofiad gwerthfawr iawn o ran ystyried celf mewn geiriau a delweddau i'r project hwn.
John Renshaw gwaith efo
Giogio Morandi
Still Life
Nid mater o 'gopïo' yw'r her ond mater o ddehongli ac ymateb i waith rhywun arall. Allai'r broses ymddangos yn arbennig o arwyddocaol yn y fan hon? Gall ymateb yn llwyr i'r dystiolaeth 'weledol' awgrymu bod angen cyfaddawdu. Felly yn sicr gall fod angen herio neu roi prawf ar eirfa weledol bersonol sefydlog yr unigolyn.
Gwnaeth Giorgio Morandi graffu'n ofalus ar gasgliad o wrthrychau disylw gan geisio egluro eu ffurf solid, y gofod yr oeddent wedi eu lleoli o'i fewn, a'r cysylltiadau rhyngddynt. Roedd ei ddiddordeb yn effeithiau golau yn amlwg, ac yn aml rhoddai'r un statws i gysgodion ag i'r gwrthrychau. Yn aml byddai ei ddefnydd o gysgodion yn creu rhywfaint o amwysedd. Gellid tybio bod y mannau tywyll yn perthyn i ffurf solid neu efallai mai dim ond cyfeirio at ofod rhwng ffurfiau y maent.
Bu gennyf ddiddordeb ym mheintiadau 'bywyd llonydd' enigmatig Giorgio Morandi ryw ddeng mlynedd ar hugain yn ôl ac atgyfodwyd y diddordeb hwnnw yn ystod ymweliad â'r Museo Fortuny yn Fenis yn 2010, a'i adfywio unwaith eto wrth ddarganfod paentiad oedd wedi ei fenthyg i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Teitl arddangosfa Morandi yn Fenis oedd 'Silenzi', ('Distawrwydd'), teitl addas iawn yn fy marn i. Mae'r ffaith i mi gael fy nenu'n bersonol at ei baentiadau yn ymwneud â'r ffaith eu bod, er gwaethaf eu symlrwydd ymddangosiadol, yn meddu ar y gallu i ddal fy sylw am dalp mawr o amser. Mae'r term 'Bywyd Llonydd' nid yn unig yn ddisgrifiad o genre, ond mae hefyd yn gweithredu fel catalydd sy'n achosi inni ymwneud yn llonydd a myfyriol â'u ffurf a'u cynnwys sydd bron yn farddonol.
Bu diddordeb amlwg Morandi ym mhaentiadau Chardin, Cezanne, De Chirico a’i ddiddordeb yn nodweddion materion oedd yn dod i'r amlwg o fewn ciwbiaeth a pheintio metaffisegol (i raddau llai), yn amlwg yn rhan o'i ddatblygiad. Hefyd, roedd y ffaith ei fod yn cyfeirio at atgynyrchiadau du a gwyn o baentiadau a gyhoeddwyd mewn cylchgronau hefyd yn ffaith newydd. Mae ei baentiadau yn amlwg yn ymddangos fel petaent yn hyrwyddo cysylltiadau gyda chelf y gorffennol, ac yn fwyaf arwyddocaol, maent yn parhau i fod yn berthnasol i nifer o artistiaid cyfoes. (Roedd arddangosfa ddiweddar yn Oriel Ingleby yng Nghaeredin - 'Resistance and Persistence' - yn cyflwyno tystiolaeth o ymateb detholiad o artistiaid i baentiadau Morandi - gyda'r teitl yn gyfeiriad pendant at draethawd ar Morandi gan Sean Scully. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Agnes Martin, Cy Twombly, Sean Scully, Rachel Whiteread, Edmund de Waal, Roger Ackling). Mae syniad Morandi o ddychwelyd at yr un pwnc neu at bynciau tebyg drwy gydol ei fywyd yn codi cwestiynau diddorol yng nghyswllt y broses o 'edrych'. Er bod cysondeb yn ei ddewis o destunau, mae pob un o'i baentiadau yn para'n wahanol i'w gilydd. Mae'r ffaith y gall paentiad 'bywyd llonydd' danio'r fath archwilio dwys ar ran y gynulleidfa yn ymddangos fel ei fod y tu hwnt i unrhyw ddisgrifiad geiriol syml. Fodd bynnag, er bod ei waith wedi parhau i danio cryn dipyn o ddadansoddi theoretig, gallai rhywun awgrymu bod ffurf a chynnwys ei baentiadau yn adlewyrchu tystiolaeth o ymateb amlwg bersonol a neilltuol o ddisgybledig i brofiad gweledol. Roedd y prif bryderon, wrth gyfeirio'n glir at hanes paentio, yn cynnwys delio’n sensitif â'i ddeunydd, a chyfnodau o ganolbwyntio'n ddwys iawn ar wneud penderfyniadau yn ymwneud â chreu ac ail-greu delwedd.
Rwyf wedi canfod mai fy ymateb gweledol mwyaf i i'w waith yw gwneud lluniau, yn bennaf. Mae'r broses wedi rhoi ffordd o ofyn cwestiynau o amgylch ffurf a chynnwys ei waith. Roedd rhywbeth yr oeddwn i wedi cymryd y byddai'n boenus o ailadroddus yn gaethiwus yn fuan iawn. Mae fy null i wedi para i fod yn sythweledol a byrfyfyriol ac mae'r broses wedi para i fod yn heriol. Mae yna adegau wedi bod lle rwyf wedi bod yn ansicr ynglÅ·n â sut i symud ymlaen ond yr ateb i hynny oedd meddwl yn weledol a thynnu mwy o luniau.
Mae tynnu lluniau wedi para i ddarparu ffordd angenrheidiol o ymholi a darganfod gydag atebion amrywiol (ac anrhagweladwy yn aml iawn) ynglÅ·n â'r berthynas weledol bosibl sy'n parhau i ymddangos yn ystod y broses. Er enghraifft; y berthynas rhwng mannau positif a negatif, pynciau a awgrymir gan liw gwrthrychau, perthnasau tonaidd a chysgodion, pryderon ffurfiol o ran grwpio gwrthrychau, gwrthdaro rhwng ymylon syth a chrwm, a pherthnasau o ran graddfa, etc.
Mae fy ymateb hefyd wedi ei archwilio drwy baentio a gwrthrychau cerflunaidd. Canlyniad diddordeb mawr Morandi mewn bywyd llonydd wedi ei wneud o 'wrthrychau gwylaidd' oedd cynhyrchu rhai delweddau arbennig iawn. Mae 'tlodi''r testun yn ddiddorol ac mae trawsnewidiad ei statws drwy ymyriad artist yn dod yn bwnc arwyddocaol iawn. Wedyn, fe'm hysbrydolwyd i gyfeirio at 'arte-povera' ac ystyried defnyddio deunydd wedi eu canfod fel cyfrwng. Unwaith eto, cafodd y berthynas bosibl rhwng elfennau sydd wedi eu canfod ei thrafod yn weledol a'i hadeiladu'n reddfol yn unol â'r nodweddion gweledol a materol a ddarganfyddais yn y broses o 'greu'.