y broses weithio a’r ymarfer stiwdio: celf newydd o gelf flaenorol
Gweithdai gan Rebecca Hardy Griffith
Ysgol Y Hendre, Caernarfon
Artist a ddewiswyd: Andrew Smith
Disgyblion: Cyfnod allweddol 2/Blwyddyn 4
Nifer: 54
Gyda chefnogaeth: Un i dri o gynorthwywyr dysgu ar wahanol adegau
Dewisais yr artist Andrew Smith gan ei fod wedi'i leoli yn Harlech yng Ngwynedd. Rwyf yn gyfarwydd â'i waith celf, a byddai ei ddefnydd o egni a phatrwm yn fy marn i yn creu gweithdy diddorol a fyddai'n ennyn diddordeb ac ymateb y disgyblion. Byddai ei broses o ddefnyddio deunyddiau yn ogystal â phwnc ei waith yn gwneud testun agored gwych i'r disgyblion ei drafod. Felly roedd y gweithdai yn ymarfer gweithredol a llafar fel bod y disgyblion yn gallu ymestyn eu meddyliau creadigol yn ffisegol ac yn feddyliol.
Roedd y gweithdy dau ddiwrnod wedi'i rannu'n ddwy ran, gyda'r diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar yr artist a ddewiswyd o'r project, a'r ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar y project a'r gwaith celf a ddewiswyd gan yr artist.
DIWRNOD CYNTAF:
Strwythur y sesiynau ar y diwrnod cyntaf oedd cyflwyno'r project, yr artist a dull yr artist gan ddefnyddio gemau tynnu llun, taflenni, trafodaeth dosbarth cyfan, gweithgaredd grŵp, gwaith annibynnol a gwerthuso. Ar ôl cyflwyno'r project i'r disgyblion a chyhoeddi enw'r artist, penderfynais gyflwyno'r sesiwn yn raddol i'r disgyblion gyda gemau tynnu llun sydyn a llawn hwyl i'w hatgoffa o'r pleser o fynegiant rhydd ac i beidio â chymryd gormod o ofal gyda'r llun gorffenedig. Mae’n ffordd dda hefyd o ymarfer eu cydsymudiad llaw/llygad a'u cael i feddwl yn sydyn. Ar ôl cyffro a chynnwrf y gêm gyntaf, cyflwynais weithgaredd arall iddynt sef gwneud marciau, gweithgaredd lle mae gair a gweithred wedi'u symleiddio. Trafodwyd gwneud marciau a sut y gellir eu defnyddio yn eu gwaith celf. Roedd yn wych gweld pa mor gyflym yr amsugnwyd y wybodaeth gan y disgyblion.
Next Yn nesaf, rhoddwyd taflenni mawr o bapur A2 ar y byrddau, lle'r oedd disgyblion mewn parau yn rhannu'r gofod ar y papur gan fod yn ystyriol ac ymwybodol o luniau ei gilydd. Y gweithgareddau y gofynnwyd i'r disgyblion eu gwneud oedd tynnu llun rhywbeth o'r gêm gyntaf (gweithred cofio), a'i dynnu eto gan ddefnyddio'r llaw arall (her), ei dynnu eto gyda'u llygaid ynghau (her ychwanegol) ac yn olaf rhoddwyd y disgyblion mewn parau. Roedd un disgybl yn dal y pensil a'r llall yn symud llaw ei bartner o gwmpas y papur i dynnu llun ac yna roeddent yn newid drosodd. I orffen y gemau tynnu llun, gofynnais gwestiynau caeedig ac agored i'r disgyblion ynglŷn â'r gweithgareddau, a pha gêm wnaethon nhw ei mwynhau? A pha weithgaredd oedd yn anodd? I ddechrau, roedd rhaid annog y dosbarth i rannu eu barn. Gwelwyd mai'r dewis mwyaf poblogaidd oedd defnyddio'r llaw arall neu gyda'u llygaid ynghau a'r weithred anoddaf oedd gweithio mewn parau, sef tebyg i farn disgyblion Ysgol y Graig.
Cafwyd trafodaeth ar ôl clirio'r lluniau a'r deunyddiau a gofynnais gwestiwn i'w hatgoffa am y project. Gofynnais iddynt i ble y teithiodd yr artist o ogledd Cymru a pha oriel aethant i'w gweld? Beth oedd enw'r artist yr oeddent ym mynd i'w astudio? Yn dilyn hyn, dangosais luniau o waith celf Andrew iddynt ar daflenni a gofynnais i'r disgyblion edrych ar y gwaith celf am ychydig o funudau. Yna trafodwyd fesul grŵp/bwrdd pa ddeunyddiau a ddefnyddiwyd gan Andrew i baentio ac i baentio arno, trafodwyd ei waith murlun hefyd a siapiau diddorol a rhyfedd ei ganfasau. Ar ôl ystyried, cafwyd atebion cymysg i'r cwestiynau agored a chaeedig, roedd rhaid annog rhai myfyrwyr tra bod rhai eraill yn fwy parod i ymateb. Er efallai bod y theori lliw a ffurf haniaethol yng ngwaith Andrew yn anodd i'r disgyblion ei deall gan eu bod blwyddyn yn iau na'r grwpiau eraill, roeddent wedi deall y naws o liwiau llachar a siapiau yn ei waith.
I'w helpu i ganolbwyntio a rhoi man cychwyn iddynt, trafodwyd y patrymau a'r ffurfiau y gellir eu gweld ym mhaentiadau Andrew, er enghraifft roedd rhai yn gweld dwylo, sêr etc. Rhoddais daflenni i'r disgyblion gydag amrywiaeth o ffurfiau a siapiau geometrig arnynt i'w helpu gyda'r gweithgaredd nesaf yn defnyddio papur graff i greu eu ffurfiau a'u siapiau eu hunain. Wedyn cawsant eu rhannu i saith grŵp bach a gofynnwyd iddynt weithio gyda'i gilydd ar un darn mawr o bapur graff, er mwyn cydweithio a gwrando ar ei gilydd. Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau wedi cael rhyw broblem neu'i gilydd wrth weithio gyda'i gilydd, efallai oherwydd eu hoed gan eu bod blwyddyn yn ifancach na'r ysgolion blaenorol ond roedd yn dda gweld rhywfaint o waith tîm, hyd yn oed os nad oedd llawer ohono.
Rhoddais daflenni i'r dosbarth yn dangos yr olwyn liwiau a'r theori lliw, a thrafodwyd y lliwiau sylfaenol, eilaidd a chyferbyniol a sut y gellid defnyddio'r theori hon yn y gweithgaredd nesaf. Trwy ddefnyddio pasteli olew, roedd gan y disgyblion y rhyddid i greu darlun yn seiliedig ar waith celf Andrew. Roedd yr ymateb yn wych er bod rhai o'r disgyblion ar y dechrau yn ei gweld hi'n anodd dewis a phenderfynu drostynt eu hunain. Roedd angen eu sicrhau drwy'r amser eu bod yn gwneud y peth iawn neu roi caniatâd iddynt ddilyn eu syniadau. Ond roedd y gwaith yn gymysgedd llwyr o ffurfiau, siapiau a phatrymau bywiog, egnïol, llac a ffrwydrol gydag ôl meddwl digymell.
AIL DDIWRNOD:
Roedd y sesiwn hon gyda'r dosbarth yn canolbwyntio ar waith celf yr oedd Andrew wedi ei ddewis o'r casgliad celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a'i frasluniau a phaentiadau cynnar yn y project. Dechreuais unwaith eto gan ofyn rhai cwestiynau i'w hatgoffa am y project ac Andrew, a chafwyd atebion ardderchog gan y disgyblion. Cyn dangos y llun a ddewiswyd ganddo, penderfynais ailadrodd y broses o'r diwrnod cyntaf a chwarae ychydig o gemau tynnu llun gyda'r disgyblion i'w paratoi ar gyfer y diwrnod o'u blaen. Roedd y gemau hyn yn datblygu eu sgiliau cydsymud llaw/llygad, gwrando a gweithio mewn grŵp ac roeddent yn eu mwynhau'n fawr hefyd.
Rhoddais daflenni i'r plant o'r llun a ddewiswyd gan Andrew sef ‘Buildings in Naples with the North-East side of the Castle Nuovo’ (1782) gan Thomas Jones, a gofynnais i'r disgyblion weithio mewn parau i drafod beth yr oeddent yn ei hoffi a ddim yn hoffi am y llun a pham. Nid oedd y dosbarth yn ymateb rhyw lawer i'r paentiad, nid oedd llawer ohonynt wedi disgwyl y byddai Andrew yn dewis 'hen baentiad' fel y dywedon nhw. Dewisais ganolbwyntio ar y patrymau a'r siapiau a grëwyd gan y paentiad, fel yr arch a'r petryalau yn yr adeilad, a sut y byddai hyn wedi ennyn diddordeb Andrew. Trafodwyd ym mha flwyddyn yr oeddent yn meddwl y cafodd y paentiad ei wneud a chawsant sioc i glywed ei fod dros 200 mlwydd oed. Yna gofynnwyd i'r disgyblion greu braslun yn seiliedig ar y llun, naill ai rhan ohono yr oeddent yn ei hoffi neu'r llun cyfan. Rhoddais enghreifftiau iddynt o frasluniau cychwynnol Andrew o'r paentiad i'w hysbrydoli hefyd.
Ar ôl gwneud y brasluniau, rhoddais gardiau papur mewn tri lliw i bob bwrdd iddynt greu collage gan ddefnyddio'r braslun yr oeddent newydd ei wneud i'w hysbrydoli, gan ofyn iddynt edrych ar y siapiau yn y paentiad eto. Parhawyd gyda'r gwaith collage tan amser cinio gan ddefnyddio papur sidan yn yr ail weithgaredd a rhoi mwy o ryddid creadigol i'r disgyblion ond ei fod yn dal yn seiliedig ar y syniad o liw a phatrwm. Roedd y canlyniadau yn hardd iawn.
Yn ystod gweithgareddau'r prynhawn, canolbwyntiwyd ar ddefnyddio paent acrylig, gan roi rhwydd hynt i'r disgyblion gyda'u creadigrwydd a gadael iddynt wneud eu dewisiadau a'u penderfyniadau eu hunain. Dangoswyd ystyriaeth feddylgar a gofalus ganddynt wrth weithio ar y cyfansoddiad mewn pensil ac yna ychwanegu'r paent. Soniais wrthynt hefyd y byddai Andrew yn galw heibio yn ystod sesiwn y prynhawn i arsylwi'r awr olaf. Roedd y disgyblion wedi'u cyfareddu gan hyn ac yn eu hysgogi i weithio hyd yn oed yn galetach. Pan gyrhaeddodd Andrew roeddent wedi eu cyffroi ac roedd ganddynt lawer o gwestiynau i ofyn iddo, roedd un bachgen eisiau ei lofnod!
I gau'r sesiynau, gofynnais ychydig o gwestiynau i'w hatgoffa am y project a'r arddangosfa a fyddai’n cynnwys ychydig o'r gwaith a grëwyd yn ystod y deuddydd.