top of page

Jane McCormack

Mae McCormack wedi'i lleoli ger Rhuthun. Fel paentiwr a chasglwr mae gwaith McCormack yn troi o gwmpas y broses o ddefnyddio paent. Mae'r cyfle i archwilio a dehongli gwaith arall yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn cyflawni'r dyhead i wneud celf newydd o gelf flaenorol sydd wedi ysbrydoli McCormack drwy gydol ei gyrfa ac yma mae'n ailgysylltu'n oddrychol gyda chof a lle.

 

Jane McCormack gwaith efo

Howard Hodgkin

Bedtime

1999–2001

Y paentiad a ddewisais i fel fy man cychwyn ar gyfer y project hwn oedd un gan Howard Hodgkin, olew ar bren, dan y teitl Bedtime 1999-2001. Cefais fy nenu gyntaf gan gyfoeth blysig y paent, a doeddwn i ddim yn amau fy newis o gwbl, ond gwyddwn y byddai'n rhywbeth anodd i'w ddilyn. Yr elfennau o baentiad Hodgkin oeddwn i'n eu hedmygu fwyaf oedd y lliw, afiaith y marciau a'r cyferbyniad rhyngddo â gweddill y casgliad, oedd yn ymddangos mor dywyll. Roedd mor uniongyrchol, yn fy ngwahodd i fynd amdano neu ei adael, ac fe gefais i fy nal ganddo. Pan oeddwn i'n fyfyriwr yn yr 80au roedd Hodgkin (mewn llyfrau) yn ddylanwad ar fy ngyrfa beintio gynnar i ac fe es i ymlaen i gydweithio gyda grŵp am ugain mlynedd. Buom yn perfformio gyda cherddorion ac yn cymryd rhan mewn sawl arddangosfa yn ystod y cyfnod pan oeddwn i'n aelod. Yn ddiweddar yng ngogledd Cymru bûm yn canolbwyntio ar weithio'n uniongyrchol o'r dirwedd. Roedd mynd yn ôl at ffordd sythweledol o weithio o'r cof a lle penodol yn gyfle a gododd am fy mod wedi dewis paentiad Hodgkin. Roeddwn yn gwybod o brofiad personol y byddai hwn yn faes heriol ac anodd, ond yn un o'r llwybrau mwyaf gonest a phersonol at wreiddioldeb hefyd.

 

 

Llawer o feddwl a darllen oedd fy mhroses gychwynnol. Ystyriais sut i weithio'r paent, gan ddewis gweithio gyda brwshys mawr, a phrynais baent ansawdd uchel Michael Harding, paent nad oeddwn erioed wedi ei ddefnyddio o'r blaen (rhy ddrud). Meddyliais am y ddyfais fframio mae Hodgkin yn ei defnyddio a phenderfynais beidio defnyddio honno, er ei bod yn rhan berthnasol o'i baentiadau, yn enwedig wrth eu gweld fel atgofion. Doeddwn i ddim eisiau disgyn i'r trap o gynhyrchu pastiches gwael o'r meistr. Hefyd doeddwn i ddim yn cael fy nghyfyngu gan faint, gan weithio ar gynfasau llai i ddechrau ac yna, pan oedd hi'n teimlo'n iawn, pa bynnag faint oedd wrth law. A hefyd, ar wahân i'r llyfrau, y canfas a'r paent, prynais lawer o liquin, i helpu'r paent i sychu'n sydyn. Y broses a ddefnyddiais oedd gweithio'n gyntaf ar ganfasau bychain gan weithio ar atgofion o ymweliadau diweddar â llefydd newydd. Pan oeddwn i ffwrdd roedd fy synhwyrau i gyd yn effro er mwyn dal hanfodion y lle yn fy meddwl, ac yna ceisio'i godi o'r cof a'i beintio ar ôl dychwelyd. Roedd yn anodd i ddechrau, ac yn ddifflach gan nad oedd yr haniaeth yn ymddangos drwy hud a lledrith, ond croeswyd y trothwy yn y diwedd ac roeddwn yn gallu fy rhyddhau fy hun i beintio'r canfasau diweddarach, oedd yn brofiad dychrynllyd ond gwefreiddiol. Mae'r project cyfan wedi bod yn gyfle gwych i ailymweld â'r ffordd o weithio sy'n ddatguddiad gonest ac anodd a gwreiddiol o'm gweledigaeth bersonol ym maes Howard Hodgkin.

bottom of page