top of page

Gareth Griffith

Mae Griffith yn byw ym Mynydd Llandegai, lle mae ei stiwdio i fyny'n uchel yn y mynyddoedd gyda golygfeydd o'r arfordir. Cynhaliwyd arddangosfeydd ganddo yn ddiweddar ym Mostyn (Open and Tent) ac yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Mae Griffith yn un o'r arlunwyr/cerflunwyr blaenllaw yn y rhanbarth sy'n dod ag agwedd unigol iawn at y gwneud, gan gwestiynu dulliau a syniadau sefydledig.

 

 

Gareth Griffith gwaith efo

ORGAN WILLIAMS-WYNN

Comisiynwyd yr organ gan Syr Watkin Williams-Wynn (1749-89) ar gyfer ystafell gerdd ei dy yn Llundain, 20 St James's Square, a'r gwneuthurwr oedd John Snetzler, a chafodd y cas ei ddylunio gan y pensaer Robert Adam.

Organamana

Mae ‘r organ yn beiriant cerddorol cymhleth sydd, yn reddfol, yn gysylltiedig â Christnogaeth. Mae gofyn am lefel uchel o sgiliau i adeiladu a chynnal organ.

Tyfais i fyny ar aelwyd oedd yn dlawd o ran cerddoriaeth. Toedd gan fy rhieni ddim sgiliau cerddorol. ‘Roedd fy Nhad yn hoff iawn o’r pianydd swil Charlie Koons oedd yn arfer bod ar raglen radio o’r enw “Workers Playtime”. ‘Roeddwn i  yn hoff iawn o’r dyn oedd yn chwarae y lli cerddorol ac hefyd o Ronnie Ronalde oedd yn dynwared adar.

Felly, fel un ddatblygodd yn hwyr mewn cerddoriaeth, fel anffyddiwr oedd ddim yn ymarfer, gyda chwaeth Gatholig mewn popeth gweledol, yn ddiffygiol mewn sgiliau gwneud rhai pethau – Organ Caerdydd oedd y dewis cywir i mi. Yr unig beth fedra’i ddeud oedd fod ganddi yr fath bresenoldeb nes y gallai fod yn fan cychwyn i ddadeni neu yn ddinistr llwyr.

 

Mae’r rheswm ein bod yn gwneud pethau yn annealladwy weithiau, gyda llawer o gwrth ddweud a dim ystyr. Ond un peth sydd yn sicr, mae creu celf yn strwythur ymwybodol sydd yn digwydd o ganlyniad i gysyniadau a phendefyniadau gweledol.

Disgrifiodd ffrind i mi y sŵn dwfn a dylanwadol o organ y Gadeirlan Anglicanaidd yn Lerpwl, bron nes fod modd teimlo’r sŵn. Rwyf innau wedi profi rhywbeth tebyg fy hun. Yn ddiweddar clywais ferch ifanc yn chwarae gwaith Bach ar y cello. ‘Roedd llawer o’r nodau yn anghywir , ond dim ots am hynny , ‘roedd dal yn fy nghyffwrdd. ‘Run fath mi all nodiadau anghywir ar organ mewn angladd eich cyffwrdd a hynny nes i chi grio.

Mae gen i ryw reddf naturiol i deimlo yn gyfforddus mewn anghyfforddusrwydd...

 

Bu i ymholiadau cynnar arwain i unman.  Y stiwdio yw’r lle ble mae syndrom Donald Crowhurst i’w deimlo. Cofiaf i gyd fyfyriwr ddweud wrthyf am weithdy gwneud organnau yn Lerpwl yn y 60au. Felly er mwyn dechrau arni o ddifri’ dyma fi yn penderfynu ymweld â chwmni Henry Willis & Sons , gwneuthurwyr at atgyweirwyr organnau. Bum ar ddau ymweliad a hynny gyda’r gwneuthurwr ffilm Greg Byatt a gyda Morgan Griffith yr arlunydd. Yr ymweliadau hyn fu’r catalydd ar gyfer y gwaith yma.

 

Fel un o’r gwneuthurwyr organnau hynaf yn Ewrop mae gweithdy Henry Willis yn le ysbrydoliedig. Yma ceir crefftwyr yn gweithio ar berfeddion yr organ.  Gall  gweld yr fath grefft eich llorio , neu o leia eich atgoffa o’ch ffawd eich hun. Fe’m denwyd at y teclynau pwrpasol ac arbennig sydd wedi eu creu gan y crefftwyr eu hunain i’w cynorthwyo i greu ac atgyweirio –rhai  teclynau syml fel “gwthwyr” (pushers) sydd yn cael eu defnyddio i arwain coedyn trwy’r plaeniau a’r llifau  mecanyddol, a theclynau eraill mwy cymhleth. Un o’r teclynau cymhleth rheiny yw megin fawr,  tebyg iawn i “elephantine vacume” Max Ernst ar olwynion. O ran gwneuthuriad mae’n edrych fel dau focs pren gyda ffrâm a thiwbiau yn cysylltu. Pwrpas y teclyn yw i brofi’r peipiau’r organ am y sŵn a’r tôn cywir. Pan welais y teclyn yma ‘roedd yn rhaid ei gael , a’r unig ffordd i’w gael , neu i gael rhywbeth tebyg , oedd i greu un....’Roeddwn yn ffodus o fedru cael yr union goedyn o hen wal ddringo oedd wedi cael ei chwalu a chefais hyd i’r dextion ayb. Ar amser ysgrifennu hwn mae y gwaith hwnnw yn dal i fod yn y broses o gael ei greu , gyda’r darn mawr wedi ei wireddu ond ‘rwyf dal yn gweithio ar y sŵn. O’r cychwyn y sŵn oedd y ffactor pwysig. 

bottom of page