y broses weithio a’r ymarfer stiwdio: celf newydd o gelf flaenorol
Andrew Smith
Mae Smith yn baentiwr ac addysgwr o fri wedi'i leoli yn Harlech. Mae wedi datblygu ei ymarfer gyda nifer o gomisiynau celf gyhoeddus lwyddiannus yn genedlaethol a thramor yn ogystal ag ysgogi cyfnewid rhyngwladol i arlunwyr. Ar hyn o bryd mae'n arweinydd pwnc mewn celf gain ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithredu fel y curadur sy'n rheoli'r project Ail-wneud-Ailddyfeisio.
Andrew Smith gwaith efo
Adeiladau Napoli gyda Castel Nuovo,
1782
Ar ôl myfyrio ar y paentiad y byddaf yn dewis canolbwyntio arno, rydw i wedi dod i gasgliad. Rydw i wedi ystyried ac wedi craffu ar bob un o'r gweithiau a welais hyd yma, gan bwyso a mesur eu meini prawf gweledol o'r atgynhyrchiadau, y ffotograffau a'r brasluniau. Rydw i'n gweithio gyda phob un ohonynt mewn ffordd oherwydd er mwyn cael golwg cynhwysfawr ar ddull gweithio Jones, rydw i am geisio gweld pob rhan o'i waith: y tirluniau crand yn y traddodiad clasurol; y tirluniau o gyffiniau Pencerrig, ei lyfrau brasluniau a'i ddyfrlliwiau.
Wrth wneud y llun mawr cyfryngau cymysg a gweithio i gael elfennau a ffurfiau yn y lle iawn a chyda'r llinellau croesi a'r gromen yn y pellter heb fod yn rhy agos at y llinell ganol ac yn y blaen, sylweddolais fod agenda cyfansoddi Jones yn rhan annatod o'i ymchwiliad; chwiliai am y ddelwedd iawn ac roedd wedi datblygu'r gallu i ddadansoddi pethau a welai bob dydd yn fanwl er mwyn adnabod a gwireddu ffurf.
Byth ers imi weld arddangosfa Jones yn y National Gallery yn Llundain yn 2004, dw i wedi bod yn chwilio am waith o'i eiddo ym mhobman. Mae rhywun yn gwneud cysylltiad yn syth â strwythur y paentiadau, eu fformat darluniadol a'u huniongyrchedd gweledol ac mae ei waith yn atseinio mewn ffordd gyfoes sy'n croesi'r degawdau ers eu creu. Fe ddes i ar draws Buildings in Naples with the North-East Side of the Castel Nuovo yn arddangosfa Constable yn Amgueddfa Victoria ac Albert ym mis Rhagfyr 2014 ac roeddwn i wrth fy modd o weld ei fod yn un o weithiau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac felly yn gymwys ar gyfer y prosiect hwn. Mae'n baentiad nodedig ac roedd y lliw yn atsain hyd wyneb y cynfas gyda chyfuniad godidog o wyrdd, llwyd, glas ac ocr. Mae hefyd yn baentiad o le penodol yn Napoli, sy'n ddifyr gan fod cynifer o'r paentiadau o Napoli yng nghyfres Jones yn rhai o strydoedd cefn dienw lle mae dillad yn sychu oddi ar falconïau ac agoriadau ffenestri tywyll yn atalnodi'r waliau ac yn creu ymdeimlad o dreigl amser.
Roeddwn i eisiau dod mor agos â phosibl at feddylfryd gweledol Jones; eisiau rhyngweithio â'i ymennydd i'r graddau y mae peth o'r fath yn bosibl. Yr hyn sy'n digwydd gyda'r paentiadau hyn (fel sy'n digwydd gyda phob paentiad arbennig) yw bod ynddynt nodweddion parhad. Mae'r olygfa o'r ffenestr yno i'n llygaid ni gael syllu arni; does dim sy'n wirioneddol arbennig am hynny. Golygfa drefol o doeau cyffredin, a dim ond trwy hap a damwain y mae yno nodau tir nodedig. Bob tro yr edrychwn mae'n gyfarwydd ond eto'n wahanol. Mae'r cadachau sy'n sychu wedi symud neu mae'r golau wedi newid er ei bod yr un amser o'r dydd neu efallai fod y coed yn symud yn yr awel.
Fe edrychais yn agos ar waith Jones drwy osod copi maint A3 wrth ymyl fy îsl yn y stiwdio er mwyn gallu cyfeirio ato'n rheolaidd. Dros amser sylweddolais yn gynyddol mai strwythur y ddelwedd yr oedd angen ei dadansoddi'n agosach. Mae rhyw fanylder a geometreg ynglÅ·n â chyfres Napoli sy'n ychwanegu at gyfanrwydd anorchfygol y ddelwedd; mae'r waliau, y toeau a'r gofodau wedi eu diffinio'n glir ac mae eu perthynas â'i gilydd yn gyfan gwbl. Darllenais i archwiliad o fy llun gan Jones yn defnyddio golau is-goch ddangos llawer iawn o waith llunio â phensil oddi isod. Roedd yr wybodaeth hon yn dyngedfennol i'm cynnydd gan i mi wastad gredu mai brasluniau a wnaed ar bapur oedd paentiadau Napoli a luniwyd yn fuan cyn i'r artist adael Napoli am y tro olaf. Dychwelais at y paentiad ei hun a mynd ati i ddadelfennu ei geometreg fel cam nesaf fy nghyfarfyddiad a'r artist hwn sydd yn baradocsaidd bell oddi wrthym ond sydd eto cyn agosed at fod yn artist modern.
Tynnais ffurf grid dros y prif bwyntiau strwythurol ar lungopi o'r paentiad.
Roedd y strwythurau hyn yn cynnwys ymylon y muriau (strwythurau fertigol) ac erchwynion y muriau (strwythurau llorweddol). Daeth yn amlwg yn syth fod yr hyn yr oeddwn wedi sylwi arno mewn ffordd anwrthrychol mewn gwirionedd yn drefn geometrig. Mae'r prif linellau fertigol a llorweddol yn adrannau canol y paentiad yn ffurfio petryal fertigol sgwarog.
At hynny, oherwydd fy nealltwriaeth fodern i o gyfansoddiad, gallai canoli'r ddelwedd a'r canolbwynt (hyd yn oed wrth ddefnyddio cynfas sgwâr) achosi problemau i ddelwedd sy'n dibynnu ar gyferbyniad er mwyn cael unrhyw fath o ddeinameg. Yma roedd Jones wedi dewis canol geometrig y paentiad fel y prif ganolbwynt; sef y dillad yn cwhwfan yn y gwynt bron yn union yng nghanol y paentiad.
Roedd gwaith ymchwil pellach i gymesuredd yn cynnwys troi ac arosod y ddelwedd. Arweiniodd hyn at ddatblygu gofod darluniadol a oedd i'w weld yn pwysleisio geometreg pellach yn y paentiad trwy greu, yn dilyn arosod y to trwy'r wal hir, ffurf onglog a ai tuag at ymyl dde ac ymyl chwith y paentiad ac yn fwy arwyddocaol fframiau petryalog o amgylch y cromenni a'r erchwyn mur yn y pellter gyda llinell yn rhedeg yn syth dros ben yr erchwyn muriau.
Rhoddodd yr arosodiad i mi strwythur cyfansoddiadol a oedd yn nes at fy syniad i o baentio drwy greu deinameg rhwng gwastadrwydd a phellter persbectif cadwedig a chaniatáu i ofod symud ar hyd holl arwynebedd y paentiad. Datblygodd lluniadau pellach wrth i mi fyfyrio ynglÅ·n â'r darganfyddiadau newydd hyn a phenderfynais wneud lluniau mawr er mwyn cael yr elfennau a'r ffurfiau yn y lle cywir gyda llinellau yn croestorri a'r gromen bell ddim yn rhy agos at y llinell ganolog a sylweddolais fod agenda gyfansoddiadol Jones yn rhan hanfodol o'i ymchwiliad; roedd yn chwilio am y ddelwedd gywir ac roedd wedi datblygu llygad i ddadansoddi'r beunyddiol yn agos er mwyn adnabod ffurfiau a'u gwireddu.
Roedd y paentiad terfynol yn adeiladu ar y broses o ddarlunio ond roedd hefyd yn cyflwyno rhagor o ddynameg weledol a rhyddid yn yr amlygiad ac, efallai, ddathliad o ffurf, gwastadeddau a gofodau geometrig, yn agos iawn mewn gwirionedd i fy ffordd i o weithio a chaniatáu o fewn dimensiwn fwy'r cynfas ar gyfer cydadwaith rhwng siâp, lliw a marciau brwsh, sef elfennau sylfaenol paentio. Disgynnodd holl ragdybiaethau ac ystyriaethau ymwybodol y prosiect ymaith wrth i weithred greadigol y paentio gymryd drosodd yn y stiwdio. Rydw i'n pendroni bellach a oedd fy meddwl ar ryw bwynt yn ystod gwneud y gwaith hwn yn ymdebygu mewn unrhyw ffordd i feddwl yr artist yn edrych ar doeau Napoli dros ddau gan mlynedd yn ôl.